Lyn Ebeneser sy'n dilyn Tro Breizh, pererindod hynafol o amgylch Llydaw. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tro Breizh Lyn Ebenezer (1997)
Martha, Jac a Sianco (2008)
Ffilm bwerus, ddramatig sydd yn olrhain blwyddyn ym mywyd y ddau frawd a chwaer, Martha, Jac a Sianco, ar y fferm deuluol, Graig Ddu. Nid oes dim byd wedi newid ar y fferm ers cenedlaethau, ond mae marwolaeth Mami a'r sylweddoliad ei bod wedi gadael y ffarm yn gyfartal rhwng y tri ohonynt yn cychwyn cadwyn o ddigwyddiadau sydd yn arwain at drasiedi. Mae yna elfen gre' o arswyd yn perthyn i'r ffilm wrth i'r brain bigo yn ddidrugaredd ar ffenestri'r fferm berfedd nos, buwch yn cnoi ei thethi ei hun ac effaith y gwenwyn sydd yn cael ei osod i ladd y brain. Yn ôl yr hen goel fe fydd y gwenwyn yn lladd saith gwaith a daw hynny yn wir erbyn diwedd y ffilm. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Caryl Lewis. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Treflan (Cyfres 1)
Drama sy’n dilyn hynt a helynt cymeriadau Daniel Owen yw'r ddrama gyfres hon. Yn ôl Manon Eames, yr awdures, drama sy’n uno tair o nofelau Daniel Owen yw hon sef Enoc Huws, Rhys Lewis a Y Dreflan. Y mae yma gyfle i gael golwg fanwl ar fywyd y capel a’r eglwys yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy lygaid Mari Lewis a’i theulu, ond hefyd y mae cyfle i gyfochri hynny gyda bywyd mwy seciwlar aleodau eraill o'r gymdeithas er enghriafft Wil Bryan y teulu Bartley a Chapten Trefor. Gwelwn y stori y datblygu dros ddegawdau wrth i Rhys Lewis ac Enoc Huws dyfu o fod yn fabanod i fod yn ddynion. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Plentyn Cyntaf (1990)
Ffilm yn creu darlun o'r dyfodol yw hon. Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym mhencadlys cwmni cyffuriau mawr sydd hefyd yn glinig meddygol lle mae pobl yn cael eu defnyddio mewn arbrofion. Mae'r sefydliad mewn dyfroedd dyfnion ac mae Tomos Clay, myfyriwr sy'n gweithio yno fel swyddog diogelwch, yn meddwl am ffordd i'w achub. Ei syniad ef yw cynnal cystadleuaeth i weld pwy fydd baban cyntaf y mileniwm newydd, gan ddenu cyhoeddusrwydd gwerthfawr. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, a'r plant a anwyd fel rhan o'r gystadleuaeth bellach yn oedolion, mae yna ganlyniadau dramatig i weithredoedd Clay. Nid yw ysgwyd y gorffennol i ffwrdd mor syml ag a dybiodd. Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Traed Mewn Cyffion
Tlodi, trais, cyni a chariad: addasiad teledu o nofel Kate Roberts. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Henry Richard: Yr Apostol Heddwch (2013)
Un o'r Cymry mwyaf blaengar a fu erioed: dyn a wrthwynebai ryfel ymhob ffurf a siâp ac un a oedd ymhell o flaen ei amser. Mererid Hopwood sy'n cymryd golwg ar ddylanwad parhaus Henry Richard yn ei waith dros gymod a heddwch. Tinopolis, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llwch Folcanig: Yr Argyfwng (2010)
Mewn rhaglen arbennig, cawn y newyddion a'r dadansoddi diweddaraf o effeithiau'r llosgfynydd yng Nghwlad Yr Iâ. Pam fod y llwch wedi achosi'r fath argyfwng? Am faint mae'n debygol o barhau? Angharad Mair fydd yn holi arbenigwyr yn y maes, yn ogystal â'r Cymry sy'n methu dod adref o wledydd tramor. Tinopolis, 2010. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mamwlad (cyfres 1) (2012)
Cyfres yn olrhain hanes merched arloesol Cymru dros y blynyddoedd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam (2016)
Hanner canrif yn ôl, ym 1966, aeth y ffotograffydd o Ruddlan, Philip Jones Griffiths, i Fietnam am y tro cyntaf. Byddai'r profiad yn llywio ei yrfa. Tynnodd Griffiths luniau dirdynnol o effaith ddinistriol rhyfel, nid yn unig ar Fietnamiaid diniwed, ond hefyd ar y milwyr. Newidiodd ei lyfr o luniau du a gwyn, VIETNAM INC. ym 1971, ein dealltwriaeth am byth o'r gwrthdaro gwaedlyd. Gyda chyfweliadau gan y rhai oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau a chyd-weithwyr yn cynnwys John Pilger, Don McCullin a'r Athro Noam Chomsky, mae'r rhaglen ddogfen arbennig hon yn bwrw golwg ar fywyd y dyngarwr, a'r etifeddiaeth a adawodd ar ei ôl. Yn glasuron y byd ffotonewyddiaduraeth, mae ei luniau mor bwerus heddiw ag erioed. Rondo, 2016. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mynydd Grug (1995)
Mynydd yng ngogledd Arfon, gaeaf 1899. Mae Begw yn edrych ymlaen at yr eira, a'r bore wedyn mae'r byd i gyd yn wyn! Ond ble mae Sgiatan y gath? Mae'r anifail wedi boddi mewn bwced â rhew drosti. Daw clep ar y drws tu ôl iddi - adlais o'r drysau fydd yn clepio arni yn ei bywyd o hynny ymlaen... Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Pethe Hwyrach (2011)
Cyfres yn trafod diwylliant a chelfyddydau Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Malcolm Allen: Cyfle Arall (2014)
Rhaglen bwerus am y cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Malcolm Allen o Ddeiniolen, wrth iddo siarad yn agored am y tro cyntaf am dreialon ei fywyd a'i yrfa liwgar. Mae Malcolm a'r teulu yn siarad yn ffraeth ac yn onest am y cyfnod tywyll hwnnw lle bu bron iddo golli popeth. Ar ôl brwydr hir, mae Malcolm wedi dod drwyddi ac wedi cychwyn ar bennod newydd yn ei fywyd. Ymysg y cyfranwyr mae Graham Taylor, Mick McCarthy, Kevin Keegan a Syr David Brailsford. Rondo, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.