Casgliad o gyflwyniadau PowerPoint yn ymwneud ag agweddau ar faes llafur Safon UG/Uwch Astudiaethau Crefyddol. Gan Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor.
Cyflwyniadau Astudiaethau Crefyddol/Athroniaeth (bl. 11-13)
Dogfennau a dolenni:
Bedydd
Pwrpas y cyflwyniad hwn yw astudio beth yw rôl bedydd mewn Cristnogaeth. Gan hynny, ystyrir agweddau megis pryd ddylai rhywun dderbyn bedydd ac i ba ddiben y dylid derbyn bedydd. Yn hyn o beth, archwilir gwahanol safbwyntiau ynghylch bedydd ar hyd y canrifoedd hyd at yr 21ain ganrif.
Moeseg Rhinwedd
Bwriad y cyflwyniad hwn yw cynnig trosolwg o Foeseg Rhinwedd. Trafodir gwreiddiau athronyddol y math hwn o foeseg drwy ystyried gweithiau’r athronwyr Platon ac Aristoteles. Gan hynny, ystyrir cryfderau a gwendidau pob dull cyn manylu ar yr hyn a ddeallir yw Moeseg Rhinwedd heddiw.
Siciaeth a Moesegyniad
Yn y cyflwyniad hwn, ystyrir y grefydd Sicaidd a'r gwahanol agweddau creiddiol sy'n gwneud rhywun yn Sîc heddiw. Gan fod perthynas agos rhwng cred a gweithred mewn Siciaeth, ystyria ail hanner y cyflwyniad foeseg a pherthynas moeseg â'r grefydd dan sylw. Bwriad hyn yw cynnig myfyrwyr trosolwg diddorol o'r grefydd a'r ffordd y mae'r grefydd yn dylanwadu ar weithgaredd Siciaid modern.
Deddfau bwyd
Ystyried agwedd hynod ddiddorol ar Iddewiaeth a bywyd Iddewon heddiw a wneir yn y cyflwyniad hwn sef y deddfau bwyd (kashrut). Mae Iddewiaeth yn grefydd sy'n dilyn nifer o reolau er mwyn byw bywyd fel Iddew da. Ymysg y rheolau neu'r mitzvot hynny y mae'r deddfau bwyd, sy'n amodi pa fwydydd sy'n kosher neu'n dderbyniol i'w bwyta a phaham. Ystyrir hefyd y bwydydd sy'n waharddedig ac yn niwtral, er mwyn cynnig trosolwg diddorol a chyflwyniadol o'r agwedd hon ar Iddewiaeth.
Moeseg Sefyllfa
Diben y cyflwyniad hwn yw cynnig myfyrwyr trosolwg cryno o un agwedd ddiddorol ar foeseg sef Moeseg Sefyllfa. Archwilir syniadau'r unigolyn a gyflwynodd Moeseg Sefyllfa sef Joseph Fletcher gan ystyried yn fanwl y gwahanol egwyddorion a oedd ganddo wrth ffurfio'r math hwn o foeseg. Wedi gwneud hynny, trafodir cryfderau a gwendidau'r math hwn o foeseg gan ystyried pa mor ymarferol ydyw yn y byd modern.
Adborth
Dim yn gweld beth rydych chi eisiau? Problem gyda'r ffeiliau? Oes gennych awgrym? Anfonwch eich adborth i ni.