Ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae canu corawl wedi chwarae rhan flaenllaw yn y diwylliant a'r gymdeithas Gymreig. Yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, bu galw cynyddol i ystyried dylanwad lles a safon byw ar iechyd. Yn sgil hyn, mae llawer o ymchwil yn ystyried y celfyddydau cymunedol, a chanu corawl yn benodol, fel enghraifft o gyfalaf cymdeithasol, a'r modd y gall hyn ddylanwadu ar iechyd a lles personol a chymdeithasol. O ganlyniad i'r gydnabyddiaeth hon, canolbwyntia'r erthygl hon ar ymchwil i'r berthynas rhwng canu corawl – fel digwyddiad cerddorol a chymdeithasol – ac iechyd a lles cyffredinol ymhlith cantorion amatur yng Nghymru. Gwawr Ifan, ''Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 15-39.
Gwawr Ifan, 'Un Llef Pedwar Llais': Dylanwad canu corawl ar iechyd a lles yng Nghymru' (2012)'
Gwennan Schiavone, 'Llais y genhades Gymreig, 1887-1930' (2007)
Mae'r erthygl hon yn archwilio goblygiadau diwylliannol enwogrwydd merched a enillwyd drwy gymryd rhan yng ngweithgarwch cenhadol trefedigaethol Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Cafodd merched eu gorchymyn i gyflawni swyddogaethau penodol yn y broses o greu cymunedau Cristnogol mewn trefedigaethau Prydeinig, gan gynnwys troi merched eraill a rhoi disgrifiadau ac esboniadau o'r genhadaeth i gynulleidfa gartref. Yn ogystal â darlithoedd a phregethau gan genhadon, ac arddangosfeydd cenhadol, y prif lwybr trosglwyddo ar gyfer y cyfathrebu hwn oedd y wasg genhadol enwadol. Mae'r erthygl hon yn archwilio sut yr oedd y cenhadon benywaidd yn eu cyflwyno eu hunain a'u gwaith i'r gynulleidfa gartref yn y wasg genhadol rhwng 1887 a 1930, ac yn awgrymu mai'r delweddau yr oeddent yn eu cyflwyno, a'r isleisiau y gellir eu cael yn eu hysgrifennu, oedd y brif ysbrydoliaeth i ferched Presbyteraidd Cymru gefnogi'r achos cenhadol, ac ymffurfio'n fudiad hynod a ddaeth yn sianel hollbwysig ar gyfer noddi gwaith cenhadol. Gwennan Schiavone, 'Y Genhades Gymreig, 1887-1930', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 27-42.
Gwyn Bellamy, 'Theori Cynrychioliad a Hynodion Cyniferydd Symplegol' (2019)
Mae rhan gyntaf yr erthygl hon yn gyflwyniad anffurfiol i theori cynrychioliadau (representation theory) y grŵp cymesur (symmetric group). Mae’r erthygl wedi ei hanelu at y mathemategydd cyffredin nad yw’n gwybod unrhyw beth am theori cynrychioliadau. Yn yr ail ran, rydym yn esbonio, yn fwy cyffredinol, sut y gellir defnyddio theori cynrychioliadau i astudio hynodion cyniferydd symplectig (symplectic quotient singularities). Yn wir, gallwn ddefnyddio theori cynrychioliadau i benderfynu pan fo’r gofodau hynod hyn yn derbyn cydraniad crepant (crepant resolution).
Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau ...
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio rôl ansawdd ac amlder amlygiad i fewnbwn ieithyddol (h.y. i ba raddau yr amlygir unigolion i iaith o wahanol ffynonellau yn ystod eu bywydau) ar gaffaeliad oedolion dwyieithog Cymraeg-Saesneg o'r system o greu enwau lluosog Cymraeg. Dangosodd ymchwil flaenorol y ceir gwahaniaethau rhwng plant dwyieithog o gefndiroedd iaith gwahanol. Er ei fod yn bosibl lleihau'r gwahaniaeth wrth iddynt gael eu hamlygu fwyfwy i'r iaith honno, mae cwestiwn ynghylch pa mor gyflym y gellir cael llai o wahaniaethau (os o gwbl) pan fo strwythurau iaith yn gymhleth, yn enwedig os defnyddir y system yn anghyson ymysg gwahanol oedolion. Fodd bynnag, mae i ba raddau y mae'r gwahaniaethau hyn yn diflannu yn ansicr, gan nad oes ymchwil wedi'i chynnal ymysg unigolion dros 11 oed. Felly nod yr astudiaeth oedd asesu gallu oedolion Cymraeg-Saesneg o wahanol gefndiroedd dwyieithog i greu ffurfiau lluosog o enwau Cymraeg er mwyn olrhain i ba raddau y gwelwyd lleihad yn y gwahaniaethau rhwng plant dros amser. Hanna Binks ac Enlli Thomas, 'Effaith amlder iaith yn y cartref ar wybodaeth oedolion o'r system o greu enwau lluosog yn y Gymraeg', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 31–46.
Helen Ougham a Howard Thomas, 'Y ddeilen hon: natur, tarddiadau a phwrpas lliwiau dail' (2017)
Y mae cyflwr yr amgylchedd a threigl amser yn cael eu hadlewyrchu yn lliwiau newidiol y planhigion sydd o'n cwmpas. Y mae cloroffyl, y pigment gwyrdd mewn dail, yn dal golau'r haul ac yn pweru'r biosffer. Y mae diflaniad cloroffyl o ddail yn yr hydref yn datgelu lliwiau melyn ac oren teulu arall o bigmentau planhigion, sef y carotenoidau. Y mae carotenoidau yn amddiffyn planhigion rhag straen ac y maent hefyd yn gyfrifol am liwiau mewn blodau ac am yr oren a choch mewn ffrwythau. Yn yr hydref, y mae dail rhywogaethau, megis masarn, yn gwneud anthocyaninau coch a phorffor, sy'n aelodau o deulu amrywiol o bigmentau a chemegion amddiffyn. Y mae planhigion yn defnyddio pigmentau i anfon signalau at organebau sy'n peillio blodau, i'r rhai sy'n gwasgaru hadau a ffrwythau, ac i ysglyfaethwyr; ymhlith y rhain i gyd y mae'r ddynol ryw, sydd yn ymateb mewn dull ffisiolegol a seicolegol arbennig i'r cemegion a geir yn y planhigion sy'n lliwio ein byd. Helen Ougham a Howard Thomas, 'Y ddeilen hon: natur, tarddiadau a phwrpas lliwiau dail', Gwerddon, 24, Awst 2017, 38-50.
Hunydd Andrews, 'Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru' (2011)
Yn y papur hwn trafodir astudiaeth uchelgeisiol o oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru. Mae dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y prosiect, sydd yn astudio profiadau dysgwyr ledled y rhanbarth am gyfnod o dair blynedd. Dyma'r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o'i math yn y maes. Arweinir y gwaith gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a'r Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng Medi 2008 ac Awst 2010, dosbarthwyd dau holiadur i ddechreuwyr ar gyrsiau holl ddarparwyr gogledd Cymru. Trafodir isod ganlyniadau'r holiaduron hynny, gan gynnwys agweddau megis cefndir y dysgwyr, eu rhesymau dros ddysgu Cymraeg, eu profiadau yn ystod eu cwrs a'u bodlonrwydd â'r ddarpariaeth. Amlinellir hanes y maes a gosodir yr ymchwil yng nghyd-destun adfywio a chynllunio iaith yng Nghymru a thu hwnt. Hunydd Andrews, 'Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru', Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 37-58.
Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithi...
Mewn rhan o Gymru lle mae dros 50 y cant o'r boblogaeth yn ddwyieithog, nid oedd unrhyw therapyddion Cymraeg gan un gwasanaeth adsefydlu corfforol cymunedol. Asesodd mesur deilliannau a gydnabyddir yn rhyngwladol effeithiolrwydd yr adsefydlu. Yr oedd gan gleifion Cymraeg eu hiaith ganlyniadau yn sgil yr adsefydlu oedd yn sylweddol is na siaradwyr di- Gymraeg (p<0.05). Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol mewn ardal arall lle'r oedd y therapyddion yn ddwyieithog. Awgryma'r canfyddiadau fod gallu therapyddion i siarad iaith gyntaf cleifion yn dylanwadu ar effeithiolrwydd therapi. Cymharwyd canran yr unigolion a gyfeiriwyd (gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol) ac a fedrai'r Gymraeg â'r ganran o siaradwyr Cymraeg y rhagwelid eu cyfeirio ar sail nifer y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn gyffredinol. Cafodd nifer sylweddol lai o siaradwyr Cymraeg eu cyfeirio at y gwasanaeth adsefydlu na'r canran a ragwelid (p<0.001). Er bod hyn yn awgrymu y medr y ffaith na all gweithwyr proffesiynol siarad Cymraeg effeithio'n negyddol ar siaradwyr Cymraeg sy'n cyrchu gwasanaethau, fe all fod rhesymau seico-gymdeithasol amlffactoraidd eraill i'w hystyried. Huw Dylan Owen a Steve Morris, 'Effaith iaith ar adsefydlu corfforol: Astudiaeth o ddylanwad iaith ar effeithiolrwydd therapi mewn cymuned Gymraeg', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 83-112.
Huw Lewis, 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?' (2010)
Mae polisiau a gyflwynwyd i adfywio rhagolygon ieithoedd lleiafrifol wedi bod yn ffynhonnell cryn anesmwythyd yn aml. Weithiau, mae gwrthwynebiadau i'r polisïau hyn yn cael eu mynegi mewn termau moesol, gan gyhuddo rhai mesurau o dorri egwyddorion normadol megis rhyddid unigol a chyfle cyfartal. O ystyried eu natur, mae'r gwrthwynebiadau moesol hyn yn cynnig cwestiynau diddorol i ryddfrydwyr. Felly, sut y dylai rhyddfrydwyr ymateb? Bydd yr erthygl hon yn archwilio'r cwestiwn hwn drwy ganolbwyntio ar un agwedd ddadleuol ar bolisi iaith yng Nghymru: y camau a gymerwyd i osod gofynion o ran yr iaith Gymraeg ar gyfer rhai swyddi yn y sector cyhoeddus. Dyma arfer sydd wedi creu cryn ddadlau, gyda gwrthwynebwyr yn honni ei fod yn tanseilio'r ymrwymiad rhyddfrydol i gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth ac, yn benodol, yn torri egwyddor penodi ar sail teilyngdod. A yw dadleuon o'r fath yn gwrthsefyll craffu? A yw gofynion ieithoedd lleiafrifol ym maes cyflogaeth yn mynd y tu hwnt i'r hyn y byddai rhyddfrydwyr yn ei ystyried yn dderbyniol, neu a ellir datblygu amddiffyniad cydlynol sydd â'i wreiddiau yn glir o fewn fframwaith rhyddfrydol? Huw Lewis, 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 55-73.
Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul' (2012)
Mae'r gwybodaeth sydd gennym o gorona'r haul yn seiliedig ar arsylwadau a wneir o bell. Mae'n amhosib, felly, i ddyfalu strwythur tri-dimensiwn y corona yn uniongyrchol. Mae'r erthygl hon yn crynhoi hanes ac yn rhoi braslun o astudio'r corona yng nghyswllt ei strwythur, ac yn disgrifio technegau newydd sydd am y tro cyntaf yn ein galluogi i wybod strwythur y corona mewn manylder. Rhoddir disgrifiad o'r newid yn y strwythur dros gylchred bywiogrwydd yr haul, gwybodaeth newydd am y cyswllt rhwng y maes magnetic a'r dwysedd coronaidd, a chanlyniadau newydd ar raddfeydd cylchdroi'r corona. Mae'r canlyniadau yn dangos fod modd cynnyddu'n gwybodaeth o'r corona yn fawr trwy gymhwyso'r technegau tomograffi newydd, gan alluogi ac ysgogi astudiaethau pellach o'r corona yn y blynyddoedd nesaf. Huw Morgan, 'Corona'r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 64-82.
Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod' (2014)
Mae gan yr Haul faes magnetig cymhleth sy'n ymdreiddio drwy'r ffotosffer (arwyneb yr Haul) i'r corona (atmosffer yr Haul). Ymddengys fod fflwcs magnetig newydd yn codi drwy arwyneb yr Haul ar ffurf dolenni caeëdig gydag un rhan o'r ddolen yn treiddio i'r ffotosffer, gan ehangu i'r corona. Mae'r broses yn nodweddiadol o ardaloedd bywiog yn y corona. Trwy gydol y broses, caiff y maes magnetig yn y corona ei greu a'i adnewyddu'n gyson. Mae hefyd yn bosibl i'r maes magnetig a phlasma (nwy trydanol egnïol) gael eu cludo allan o'r corona drwy lifo gyda gwynt yr Haul i'r heliosffer (y gofod yng nghynefin yr Haul sy'n cynnwys cysawd yr Haul). Ceir cludiant o'r fath yn ystod digwyddiadau ffrwydrol ar yr Haul. Yn ôl y llenyddiaeth gyfredol, ni cheir cludiant oni cheir digwyddiad ffrwydrol, ac felly pan na cheir ffrwydrad, disgwylir y caiff meysydd magnetig caeëdig ardaloedd bywiog y corona eu hynysu rhag yr heliosffer. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno tystiolaeth wahanol i'r llenyddiaeth gyfredol. Mae'r arsylwadau a gyflwynir yn dangos y dystiolaeth gyntaf y gall y maes magnetig caeëdig ehangu'n uniongyrchol o'r corona heb ddigwyddiad ffrwydrol gan ffurfio rhan bwysig o wynt yr Haul. Cesglir y dystiolaeth drwy gymhwyso technegau delweddu newydd i arsylwadau o'r corona. Cyflwynir yr arsylwadau a thrafodir eu goblygiadau i'r darlun cyfredol a geir o'r prosesau sy'n cysylltu'r Haul â'r heliosffer. Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o'r Haul i'r gofod', Gwerddon, 18, Medi 2014, 10-22.
Hywel Griffiths, 'Geomorffeg afonol Cymru: Heddiw, ddoe ac yfory' (2008)
Hywel Griffiths, 'Geomorffeg afonol Cymru: Heddiw, ddoe ac yfory' (2008)
Mae'r papur hwn yn cyflwyno adolygiad o'r ymchwil geomorffeg afonol a wnaed ar afonydd Cymru. Yn ogystal â thrafod tueddiadau a welir yn yr astudiaethau hyn, yn gyntaf drwy ganolbwyntio ar waith daearegwyr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thrwy symud ymlaen drwy ddatblygiad geomorffeg yn faes ymchwil i'r cyfnod rhyngddisgyblaethol presennol, trafodir y meysydd sydd wedi cael sylw arbennig ar afonydd Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys esblygiad mega-geomorffeg Cymru, astudiaethau proses arloesol, esblygiad systemau afonol llifwaddodol i newidiadau hinsoddol tymor byr a thymor hir, ac ymateb afonydd Cymru i weithgarwch anthropogenig. Mae'r amrywiaeth hon o astudiaethau yn ganlyniad natur systemau afonol Cymru. Yn gyntaf, maent yn dangos hanes esblygol, gan gynnwys cyfnodau rhewlifol ac adnewyddiad. Yn ail, mae prosesau cyfoes wedi creu amrywiaeth eang o fathau o sianeli, gan gynnwys sianeli creigwely, afonydd gwely graean, sianeli troellog, plethog, sefydlog ac ansefydlog. Yn drydydd, mae diddordeb academaidd a phryderon pragmatig ynghylch rheoli afonydd wedi arwain at gorff mawr o waith sydd, mewn rhai achosion, yn golygu bod nifer o rannau o afonydd Cymru yn cael eu hystyried yn archdeipiau rhyngwladol. Trafodir bylchau yn ein gwybodaeth hefyd. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i gynyddu ein dealltwriaeth o brosesau cyfoes a pharhau â'r gwaith a wnaed ar ymateb ac esblygiad llifwaddodol drwy ddefnyddio'r technegau diweddaraf i gadw cronoleg datblygiad systemau afonol. Mae angen ehangu cwmpas gofodol ein hastudiaethau i ardaloedd nad ydynt wedi cael cymaint o sylw yn y gorffennol, megis sianeli llifwaddodol creigwely a chreigwely cymysg y gogledd-orllewin a chymoedd de Cymru. Hywel Meilyr Griffiths, 'Geomorffeg afonol Cymru: Heddiw, ddoe ac yfory', Gwerddon, 3, Mai 2008, 36-70.
Hywel Iorwerth a Carwyn Jones, 'Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol' (2016)
Yn yr erthygl hon rydym yn herio'r syniad fod cenedlaetholdeb yn gyffredinol, a chenedlaetholdeb ar y maes chwarae yn arbennig, yn anfoesol. Er bod cenedlaetholdeb yn gallu cael ei lygru ar y maes chwarae ac mewn cyd-destunau eraill, nid yw hynny o reidrwydd yn anochel. Trwy drafod athroniaeth cenedlaetholdeb rhyddfrydol, fe fyddwn yn ceisio dangos bod derbyn ymlyniad diwylliannol a chenedlaethol yn hanfodol er mwyn hybu cymuned ryng-genedlaethol. Ymhellach, byddwn yn dadlau bod gan chwaraeon cenedlaethol botensial hynod arwyddocaol i greu fforwm a deialog lle y gall gwahanol ddinasyddion rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd. Hywel Iorwerth a Carwyn Jones, 'Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 65-81.