Gweler ddolen at wefan Atebol isod er mwyn prynu'r llyfr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Egwyddorion a Chyd-destunau gan Carol Bennett, Sara Jones, Rhiannon Salisbury a Philip Webber. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau, sy’n rhan o’r gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru a ddarperir gan City & Guilds/CBAC. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon wedi’u hanelu at ddysgwyr ôl-16 sy’n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn addas ar gyfer Lefel 3 Tystysgrif, Diploma Sylfaen, Diploma neu’r Diploma Estynedig. Yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant. Mae’r cymhwyster a’r gyfrol hon yn addas hefyd ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’r blaen. Adnodd penodol ar gyfer Unedau 4, 5 a 6 y cymhwyster. Bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer arholiadau allanol a’r asesiadau perthnasol. Yn cynnig arweiniad ar gyfer astudio’r gwahanol bynciau er mwyn gwneud yn siŵr y bydd gennych yr wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol sy’n sylfaen gadarn i lwyddiant yn y maes hwn. Cyfle i fyfyrio ar eich profiadau a chyfle hefyd i wneud gwaith ymchwil pellach i wella eich dealltwriaeth. Astudiaethau achos sy’n rhoi cyfle i chi osod yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu o fewn cyd-destun yr hyn y byddwch yn ei wynebu yn eich gwaith o ofalu am eraill.
Llawlyfr Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Chyd-destunau
Am Iechyd
Cyfres o bodlediadau lle mae darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mae podlediad 'Am Iechyd' yn cynnig platfform proffesiynol i weithwyr rheng flaen ac academyddion i drafod yn y Gymraeg. Mae'r gyfres yn trafod nifer o bynciau megis: Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Modelau Genediaeth Byw Efo Dementia Beth yw ystyr gofalu? Y berthynas rhwng iechyd a gofal Bronfwydo Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Banor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
Gwerslyfr Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2
Canllaw i gefnogi dysgu Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Cymwysterau Cymru). Addasiad o Level 2 Health and Social Care: Core (Qualifications Wales) a ddatblygwyd gan Hodder mewn partneriaeth â City & Guilds. Mae'r llyfr hwn ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru sy'n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, neu sydd am weithio ynddyn nhw. Mae'n ymdrin â saith uned graidd y cymhwyster a bydd hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad MCQ sy'n cael ei asesu'n allanol gyda'r asesiadau wedi'u hasesu'n fewnol o fewn y sefydliad. Mae’r gwerslyfr yn ymdrin â gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae'n adlewyrchu amrywiaeth o rolau a lleoliadau gwahanol. Mae'n cynnwys: • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol • Iechyd a llesiant • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol • Diogelu unigolion • Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Byd Rhithiol Gwrth-Hiliaeth Llywodraeth Cymru
Ar y cyd â mXreality, ac wrth weithio â thimau sy’n arbenigo yn y pwnc o Goleg Caerdydd a’r Fro, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu amgylchedd metafyd 3D trochol, hygyrch ac eang, sy’n cynnwys pum ardal yn ymwneud â gwahanol themâu. Maent yn edrych ymlaen at rannu profiadau, straeon a hanesion gyda chi. Gwahoddir chi i ymgysylltu â phrofiad dysgu trochol, a fydd yn gwella eich dealltwriaeth o’r byd. Wrth ichi archwilio’r byd hwn, gofynnir ichi ymgysylltu â’r adnoddau a myfyrio ar eu harwyddocâd. Dyma gyfle i chi ddysgu am y diwylliannau a’r traddodiadau sy’n ffurfio rhan o’n cyd-hunaniaeth. Mae'r Metafyd yn cynnwys yr ardaloedd canlynol: Profiadau Mae’r Metafyd Profiadau wedi’i leoli ar stryd o dai pâr cynrychiadol yng Nghymru, gyda mynediad at chwe thŷ (tri ar bob ochr o’r stryd). Ym mhob un o’r tai, gallwch ddysgu mwy am gefndir a diddordebau’r unigolion sy’n byw yno drwy wylio’r fideo sy’n chwarae ar y teledu a thrwy glicio ar rai o’r eitemau rhyngweithiol (a nodwyd gan eicon tri smotyn) yn yr ystafell fyw. Astudiaethau Trochol Mae’r Metafyd Astudiaethau Trochol yn cynnwys prif ardal lefel is a thair ardal lefel uwch. Mae gan y brif ardal amrywiaeth o eitemau o ddiddordeb geometregol oherwydd eu siapiau a’u patrymau, sy’n dangos y cysylltiad rhwng mathemateg, gwyddoniaeth a natur. Gallwch ddysgu mwy am yr eitemau hyn drwy glicio arnynt. Mae Cod QR i’w weld ar banel ger rhai eitemau hefyd, y gellir ei sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais. Mae’r lefel uwch yn cynnwys: ystafell Mathemateg – yn galluogi ymwelwyr i archwilio pwysigrwydd a hanes rhifau a siapiau mathemategol a geometregol Ystafell Gwallt a Harddwch – yn galluogi ymwelwyr i ymgyfarwyddo â hanes a gwreiddiau gwallt a harddwch Ystafell Dyfeisiadau – yn addysgu ymwelwyr am rai dyfeisiadau arwyddocaol a chyfraniadau cynnar i fywyd cyfoes Llinell Amser y Byd Mae Metafyd Llinell Amser y Byd yn cynnwys prif ardal ganolog a phedwar rhanbarth daearyddol, a gallwch gael mynediad at bob un ohonynt drwy dwnnel o’r ardal ganolog. Mae pob twnnel yn arddangos gwybodaeth sy’n cyflwyno cefndir, hunaniaeth a delwedd unigolyn cynrychiadol o’r rhanbarth hwnnw. Mae pob un o’r pedwar rhanbarth (y manylir arnynt isod), yn cynnwys pedwar cyfnod amser, sy’n galluogi ymwelwyr i brofi pensaernïaeth, delweddau a gwybodaeth gynrychiadol mewn perthynas â’r oes hynafol, yr oesoedd canol, y cyfnod modern cynnar, a’r byd heddiw. Y pedwar rhanbarth sydd ar gael yn y Metafyd hwn yw: Affrica, Is-gyfandir India, Y Dwyrain Canol a Gogledd Ewrop. Wrth ichi symud o gwmpas llinell amser y byd, yn yr ardal ganolog ac ym mhob un o’r rhanbarthau, mae eitemau rhyngweithiol y gallwch glicio arnynt yn cysylltu â fideos sy’n cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ddefnyddiol. Mae Codau QR ar gael yn rhai o’r rhanbarthau hefyd, y gellir eu sganio gyda chamera eich ffôn symudol er mwyn gweld fersiwn 3D neu Realiti Estynedig (AR) o’r eitem ar eich dyfais. Y Cwricwlwm Mae'r adran hon yn eich galluogi i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bynciau y saeniwyd yn ofalus er mwyn sichrau y bydd eu cynllun yn wrth-hiliol. Mae'r adran yn cynnwys y pynciau canlynol: Cymdeithaseg Gwallt a Harddwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffeministiaeth Ddu Gwleidyddiaeth Mathemateg Astudiaethau Ffilm Athroniaeth Affricanaidd Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill Addysg Sylfaenol i Oedolion Anghenion Dysgu Ychwanegol Sesiwn tiwtorial
Mwy na Geiriau: Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal
Nod yr adnodd hwn yw cyflwyno ymwybyddiaeth iaith mewn iechyd a gofal i fyfyrwyr addysg uwch ac ymarferwyr proffesiynol. Ei brif amcan yw meithrin hyder myfyrwyr i ddefnyddio eu Cymraeg gyda chleifion a chydweithwyr yn y GIG. Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer myfyrwyr addysg uwch (lefel 4+) sydd yn astudio unrhyw bwnc iechyd a gofal ac yn bwriadu mynd ymlaen i ddilyn gyrfa yn y maes. Mae hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr proffesiynol a gellir ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Ac eithrio Uned 1, mae pob uned yn dilyn llwybr claf penodol er mwyn dangos sut mae gwahanol broffesiynau yn cydblethu ac yn cael effaith ar brofiad y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth. Gellir gweithio drwy’r pecyn cyfan yn ôl ei drefn neu ddewis a dethol unedau penodol. Mae modd addysgu’r unedau yn yr ystafell ddosbarth neu eu hastudio’n annibynnol. Mae rhan fwyaf o’r unedau yn cyflwyno geiriau, ymadroddion a therminoleg Cymraeg i’w defnyddio gyda chleifion a staff. Er y bydd yr eirfa hon yn gyfarwydd i fyfyrwyr sydd eisoes yn siarad Cymraeg, fe’u hanogir i ystyried sut i rannu a dysgu’r eirfa i’w cyfoedion. Yn sgil hyn, mae’r cynnwys hwn yn addas i bob myfyriwr, beth bynnag fo’u gallu Cymraeg.
Astudiaethau Achos Gofal Plant: Cynnwys Pob Plentyn
Mae’r adnodd hwn wedi ei baratoi ar gyfer dysgwyr sy’n astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori ac Uned 001 Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed) yn benodol. Caiff rhai o’r egwyddorion mawr sy’n sail i Uned 001 eu cyflwyno drwy astudiaethau achos, hynny yw 4 stori am blant bach sy’n mynychu darpariaeth plentyndod cynnar, fel cylch meithrin neu feithrinfa. Dyma nhw: Deio sy’n 3 oed ac mae ganddo epilepsi. Hanna sy’n 4 oed ac mae ganddi diabetes. Eshaal sy’n 3 oed ac mae ganddi alergeddau. Caio sy’n dair a hanner oed ac mae ganddo awtistiaeth. Mae’r astudiaethau yn cynnig golwg ar y plant drwy lens themâu sy’n berthnasol i Deio, Hanna, Eshaal, a Caio – ac i bob plentyn mewn gwirionedd. Y themâu hyn – yr egwyddorion mawr - yw: Hawliau plant Cynhwysiant Cyfle cyfartal Y peth pwysicaf, wrth gwrs, mewn unrhyw ddarpariaeth yw sicrhau bod pob plentyn yn saff, ond ni ddylai cyflyrau’r plant amharu ar eu hawl i gael hwyl, i ddysgu, i fwynhau cwmni plant eraill, i anturio yn yr awyr agored... Caiff yr egwyddorion mawr hyn eu fframio mewn deddfwriaeth megis: Deddf Plant 1989 a 2004, Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac mae polisïau a chanllawiau megis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a Saith Nod Craidd Llywodraeth Cymru. Bydd rhain yn llinyn aur drwy’r 4 astudiaeth achos ac maen nhw’n berthnasol i Deio, Hanna, Eshaal, a Cai ac eto dyma bwysleisio, eu bod yn bwysig i bob plentyn.
Echelgais
Adnodd cyfrwng Cymraeg ar wefan HWB sy'n canolbwyntio ar 6 maes; Amaethyddiaeth, Busnes, Drama, Twristiaeth a Hamdden, Iechyd a Gofal a Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfryngau.
Fideos Rhannu Arfer Dda
Dyma gyfres o fideos o ddarlithwyr addysg bellach a darparwyr prentisiaethau yn rhannu arfer dda ynglŷn â hyfforddi, addysgu ac asesu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog beth bynnag fo'ch sgiliau iaith Gymraeg.
Tregyrfa
Adnodd digidol sy'n cynnwys gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd yn y maes iechyd a gofal yng Nghymru. Datblygwyd gwefan Tregyrfa gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Bwriad Tregyrfa yw rhannu gwybodaeamth am y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r maes gofal.
Cyflwyno'r Gymraeg: Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Casgliad o adnoddau i gefnogi addysgwyr sy’n dymuno cyflwyno mwy o Gymraeg wrth addysgu'r cwrs Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yw’r adnodd hwn. Mae'r casgliad wedi'i greu er mwyn cefnogi addysgwyr wrth iddynt gynllunio a gosod gweithgareddau gwaith dosbarth neu dystiolaeth yn seiliedig ar sgiliau Cymraeg y dysgwyr. Mae’r casgliad yn cynnwys: • canllaw er mwyn esbonio sut mae defnyddio’r adnodd. • dogfennau 'Mapio’r Cyfleoedd i gyflwyno’r Gymraeg' fesul uned craidd. • cyfres o dasgau sy’n cwrdd â gofynion rhai o feini prawf penodol y cwrs. Maent yn dangos sut mae modd cael pob dysgwr i gyflawni’r un dasg, wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar lefelau unigol a phriodol. • posteri dwyieithog gyda thermau allweddol ar gyfer pob uned. • adnodd sy’n darparu syniadau i ddysgwyr er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg ar leoliadau gwaith.
Dysgu Rhannau'r Corff
Adnodd rhyngweithiol byr sy'n cyflwyno rhannau o'r corff i ddefnyddwyr yn Gymraeg. Mae cyfle i ymarfer labeli'r corff ac i ddysgu am y termau lluosog.
Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 10 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy'n astudio cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Lefelau 2 & 3. Nodir yn nheitl yr adnoddau ar gyfer pa lefel mae'r adnodd yn addas. Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawr lwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran y Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.