Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 1 Rhagfyr 2021. 2021 1 Rhagfyr 2021: Dafydd ap Gwilym, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) 8 Rhagfyr 2021: Gwerthfawrogi Rhyddiaith, Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor (Bl.13 + Bl.12) 2022 2 Chwefror 2022: Ymarfer Papur Gramadeg, Dr Alec Lovell, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 9 Chwefror 2022: Hedd Wyn (Ffilm), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 16 Chwefror 2022: Branwen, Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor (Bl.13) 2 Mawrth 2022: Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 9 Mawrth 2022: Sul y Mamau yn Greenham (Menna Elfyn), Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd (Bl.12) 16 Mawrth 2022: Y Genhedlaeth Goll (Alan Llwyd), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Ar-lên 2021-22: Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch (Rhagfyr 2021 - Mawrth 2022)
Astudio Cymraeg yn y brifysgol (Gweminar)
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg. Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae'n cynnwys: Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 19 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Sgwrs rhwng ein llysgenhadon a myfyrwyr cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen) Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg.
150 Adnodd Newydd
Datganiad i'r Wasg: Mae 150 o adnoddau newydd wedi eu cyhoeddi ar y Porth Adnoddau, gwefan adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, er mwyn cefnogi darlithwyr ac ymarferwyr mewn colegau addysg bellach a hyfforddwyr yn y maes prentisiaethau. Bydd yr adnoddau yn cefnogi’r addysgwyr i gynnig darpariaeth Gymraeg a dwyieithog i bob dysgwr a phrentis beth bynnag eu sgiliau Cymraeg yn unol ag amcanion y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cymraeg a lansiwyd gan y Llywodraeth yn 2019. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi arwain prosiect cenedlaethol i greu a diweddaru dros 150 o adnoddau digidol Cymraeg a dwyieithog ar draws pedwar pwnc blaenoriaeth sef Iechyd a Gofal, Gofal Plant, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Amaeth. Ariannwyd y prosiect yn dilyn grant gwerth £150,000 gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, canran isel iawn o weithgareddau dysgu yn y sector ôl-16 sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ond mae’r Cynllun Gweithredu yn anelu at gynnydd sylweddol dros y blynyddoedd i ddod. Mae sicrhau bod adnoddau addas ar gael i ymarferwyr, darlithwyr a hyfforddwyr yn allweddol i wireddu amcanion y cynllun yn enwedig o gofio mai canran gymharol isel o’r gweithlu sy’n ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg. Yn ôl rheolwr y prosiect, Dr Lowri Morgans sy’n Reolwr Academaidd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y prosiect yn cael effaith bellgyrhaeddol ar amcanion Strategaeth Cymraeg 2050 y Llywodraeth i “ddatblygu darpariaeth addysg ôl-orfodol sy’n cynyddu cyfraddau dilyniant ac yn cefnogi pawb, ni waeth pa mor rhugl eu Cymraeg, i ddatblygu sgiliau yn yr iaith i’w defnyddio’n gymdeithasol ac yn y gweithle.” Meddai Dr Morgans: “Nod y prosiect yw sicrhau bod adnoddau dysgu cyfunol o’r radd flaenaf ar gael yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng Cymraeg o Lefel 1 i 3 ar draws y meysydd blaenoriaeth. “Mae ein cydlynwyr pwnc sy’n arbenigwyr profiadol yn eu meysydd wedi cydweithio gydag arbenigwyr e-ddysgu i sicrhau bod yr adnoddau sydd wedi eu datblygu yn cwrdd ag anghenion darlithwyr ac ymarferwyr yng Nghymru ac yn llenwi’r bylchau a adnabuwyd o ran diffyg adnoddau Cymraeg a dwyieithog.” I gefnogi prentisiaid yn benodol, mae’r Coleg wedi comisiynu “Prentis-iaith ar Lefel Dealltwriaeth”. Mae’r adnodd yn cefnogi hyfforddeion sydd yn meddu ar rywfaint o ddealltwriaeth o’r Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau ymhellach ac yn dilyn llwyddiant y fersiwn wreiddiol, “Prentis-iaith ar Lefel Ymwybyddiaeth”, a gomisiynwyd yn flaenorol ar gyfer datblygu ymwybyddiaeth iaith sydd wedi cael ei lawrlwytho o’r Porth Adnoddau dros 11,000 o weithiau. Mae 14 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Gofal Plant gan gynnwys Posteri Geirfa Ddwyieithog Gofal Plant. Yn ôl Joanne DeBurgh sy’n ddarlithydd Gofal Plant yng Ngholeg Penybont: “Rydyn ni wedi argraffu’r holl bosteri ar bapur A3 ac mae’n nhw wedi cael eu gosod ym mhob ystafell ddosbarth. Hefyd, yn yr adran Gofal Plant, mae copïau A5 wedi cael eu rhoi yn llyfrau'r myfyrwyr er mwyn helpu gydag unrhyw dasgau ble mae angen y termau yn y Gymraeg. “Mae pob adnodd wedi bod yn ddefnyddiol. Rydyn ni angen adnoddau dwyieithog gan nad oes gennym ni lawer o fyfyrwyr sydd yn dod o ysgolion neu deuluoedd Cymraeg.” Mae 16 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Iechyd a Gofal. Yn ôl Moli Harrington sy’n ddarlithydd Iechyd a Gofal yng Ngholeg Merthyr Tudful: “Mae'n wych gweld bod y Coleg Cymraeg nid yn unig wedi comisiynu adnoddau o'r newydd, ond hefyd wedi cymryd yr amser i gasglu a diweddaru cyflwyniadau roedd staff y sector wedi'u creu yn barod. Mae rhannu adnoddau ymysg gwahanol Golegau yn hwyluso addysgu dwyieithog o fewn y maes Iechyd a Gofal ar draws Cymru ac yn rhoi mwy o amser i ni ganolbwyntio ar ein dysgwyr. Edrychaf ymlaen at weld pa adnoddau bydd yn cael eu rhoi ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg nesaf.” Mae 62 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys 60 uned ddysgu rhyngweithiol. Yn ôl Carolann Healy sy’n ddarlithydd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’n wych gweld bod fersiynau dwyieithog o adnoddau Gwasanaethau Cyhoeddus y BLC ar gael ac maen nhw wedi cael derbyniad da gan y myfyrwyr a’r darlithwyr. Mae’r Gymraeg nawr yn cryfhau ei hun fel iaith normal a naturiol yn ein colegau addysg bellach ac yn paratoi gweithlu sy’n ddwyieithog. Mae’r adnoddau yma hefyd yn ffordd o gryfhau sgiliau iaith myfyrwyr mewn meysydd newydd ac i rai sydd efallai heb ymarfer yr iaith ers dyddiau ysgol.” Mae 63 o adnoddau wedi eu creu a’u diweddaru yn y maes Amaeth gan gynnwys adnodd iechyd anifeiliaid ar y fferm a gafodd ei ddiweddaru. Yn ôl David John sy’n ddarlithydd Amaeth yng Ngholeg Penybont: “Mae'r adnoddau yn rhagorol ac yn help mawr yn y wers yn enwedig i gyflwyno pwnc newydd. Rydw i’n hoff iawn eich bod yn gallu toglo rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd.” Gellid dod o hyd i’r holl adnoddau newydd drwy ddilyn y ddolen isod.
Esboniadur Tirfesureg
Adnodd hawdd i'w ddefnyddio sy’n cynnwys diffiniadau ac esboniadau o dermau sy’n ymwneud â phwnc Tirfesureg. Mae’r adnodd ar gyfer nifer o wahanol ddefnyddwyr, gan gynnwys myfyrwyr prifysgol, dysgwyr mewn colegau addysg bellach a gweithwyr yn y sector adeiladu a thirfesureg. Bydd o fudd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru o ran terminoleg sy’n berthnasol i gynlluniau datblygu lleol a cheisiadau cynllunio. Mae’r cofnodion wedi’u rhannu’n ddau gategori, sef tirfesureg pur a thirfesureg tir ac eiddo. Mae’r adnodd yn ffrwyth gwaith Adran Amgylchedd Adeiledig Prifysgol De Cymru.
Barod ar gyfer Prifysgol
Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn hwb sy'n hawdd ei ddefnyddio, p'un a ydych ar fin symud ymlaen i addysg lefel prifysgol, neu'n cefnogi rhywun sy'n gwneud hynny - efallai fel rhiant, athro, gofalwr neu gynghorydd. Gallwch chwilio yn ôl pwnc – fel sgiliau astudio, llesiant ac iechyd meddwl, neu fywyd myfyrwyr – yn ôl sefydliad, ac yn ôl maes pwnc, fel y gallwch fod yn siŵr o fynd yn syth i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Philip Jonathan, ‘Cynrychioliad amharamedrig ar gyfer cyd-newidynnau amlddimensiynol mewn model gwerthoedd eit...
Cyflwynir methodoleg ystadegol er mwyn modelu gwerthoedd eithaf amgylcheddol prosesau anunfan. Seilir y fethodoleg ar fodel Pareto cyffredinoledig ar gyfer brigau dros drothwy o'r broses amgylcheddol, â chynrychioliad Voronoi ar gyfer amrywiad paramedrau'r model gwerthoedd eithaf gyda chyd-newidynnau amlddimensiynol. Defnyddir rhesymu Bayesaidd MCMC naid wrthdroadwy, yn ymgorffori samplu Metropolis-Hastings mewn Gibbs, i amcangyfrif cyd-ol-ddosraniad holl baramedrau'r cynrychioliad Voronoi. Cymhwysir y fethodoleg i ganfod nodweddion gerwinder stormydd morol eithafol gyda chyfeiriad a thymor. Dilysir bod efelychiadau yn ôl y model a amcangyfrifwyd yn cyfateb yn dda i'r data gwreiddiol. Ymhellach, defnyddir y model i amcangyfrif uchafwerthoedd brigau dros drothwy sy'n cyfateb i gyfnodau dychwelyd llawer hwy na chyfnod y data gwreiddiol.
Adnoddau Dysgu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
Isod ceir ddolen i'r adran adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r adnoddau yma'n berthnasol ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal Plant. Yn ogystal, mae dolen i ddogfen sy'n nodi'r adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n berthnasol ar gyfer unedau penodol o fewn y cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 a 3.
Cynhadledd y Gyfraith a Throseddeg 2021
Cynhadledd ar-lein ar gyfer myfyrwyr is-raddedig ac ôl-raddedig, neu unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes, a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2021. Roedd y gynhadledd yn trafod gwahanol agweddau o'r Gyfraith yng Nghymru heddiw. Cafwyd gair o groeso gan yr Arglwydd Lloyd-Jones, Ynad yng Ngoruchaf Lys y Deyrnas Unedig a chyflwyniad gyda sesiwn cwestiwn ac ateb gan Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru. Yn ogystal â hyn, cafwyd panel galwedigaethol gan ddwy gyfreithwraig broffesiynol a hefyd trafodaeth lle gofynnwyd am farn myfyrwyr ar ddysgu'r Gyfraith a Throseddeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r gynhadledd:
Sêr Cemeg Cymru
Cyfres o fideos sy'n cyflwyno gwaith dydd i ddydd Cemegwyr mewn labordai yng Nghymru a thu hwnt. Cyhoeddwyd yn wreiddiol fel rhan o weithgareddau Eisteddfod Amgen 2021. Cyllidwyd y prosiect gan y Royal Society of Chemistry. Diolch i Telesgop am gynhyrchu ac i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am rannu.
Addysgeg Dysgu ac Addysgu Dwyieithog yn y Cyfnod Normal Newydd
Dyma gyfres o adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol a ddatblygwyd i gefnogi tiwtoriaid i fewnosod y Gymraeg ac addysgu'n ddwyieithog mewn amgylchedd dysgu ar-lein. Mae dewis o chwe uned gwahanol, ac mae pob uned tua awr o hyd. Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gofal Plant yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Gwasanaethau Cyhoeddus yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith yn y cyfnod normal newydd Addysgeg dysgu ac addysgu dwyieithog ym maes Dysgu Oedolion yn y cyfnod normal newydd.
Cyflwyniadau Gofal Plant Lefel 2
Dyma 6 cyflwyniadau ar gyfer cwrs Lefel 2: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Craidd. Mae'r cyflwyniadau yn cwmpasu'r themâu isod yn unol â manyleb y cwrs: Llesiant Cefnogi ymddygiad cadarnhaol plant Egwyddorion gwaith chwarae Anghenion dysgu ychwanegol Gweithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau allanol Gweithio fel tîm
Ffocws ar Ddiwydiant: Adeiladu
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys sgyrsiau a recordiwyd â chyflogwyr adeiladwaith amlwg yng Nghymru. Mae’r sgyrsiau yn cynnwys cyflwyniadau i’r sector adeiladu a’r dulliau amrywiol a ddefnyddir wrth ddatblygu strwythurau newydd a diogelu hen adeiladau. Nod y casgliad hwn yw cefnogi ysgolion a cholegau a fydd yn addysgu cymwysterau TGAU a Sylfaen newydd mewn adeiladu, a fydd ar gael i’w haddysgu o fis Medi 2022. Mae’r gweminarau oddeutu 20 munud o hyd yn dilyn cynnwys y ddau gymhwyster adeiladwaith newydd. Rhennir gwybodaeth dechnegol am y maes a chyflwynir y diwydiant adeiladu’n fyw yn yr Ystafell ddosbarth neu’r coleg drwy gyfeirio at brosiectau go iawn sydd ar y gweill neu wedi’u cwblhau’n ddiweddar. Paratowyd y gweminarau hyn mewn cydweithrediad â CITB Cymru.