Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o'ch astudiaeth yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu'n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl. Byddwch yn cael arweiniad ar ba dechnegau i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio.
Cwrs byr: Darllen a Gwneud Nodiadau
Nyrsio: Pecynnau Dysgu Cyfrwng Cymraeg
Pecynnau dysgu i ddatblygu gwybodaeth myfyrwyr yw'r adnoddau hyn, yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig. Mae'r pecynnau'n cyfrannu at fodiwlau penodol yn ysgol Nyrsio, Prifysgol De Cymru, ond gallant hefyd gael eu defnyddio gan fyfyrwyr o brifysgolion eraill sy'n astudio ar unrhyw gangen Nyrsio trwy gyfrwng y Gymraeg. Gallant hefyd fod yn adnoddau a fyddai o ddefnydd i'r sawl sy'n ymddiddori yn y maes. Mae pump pecyn dysgu wedi eu datblygu. Mae'r Rhith Rheolwr Poen yn efelychu peiriant PCA (peiriant sy'n galluogi claf i weinyddu analgesia i'w hun). Pwrpas yr adnodd rhyngweithiol yma yw dysgu myfyrwyr sut i ddefnyddio'r peiriant ac i ystyried y fath o ofal nyrsio y dylid darparu mewn lleoliad ysbyty. Gellir lawrlwytho pedwar pecyn dysgu ychwanegol yn yr adran 'Cyfryngau cysylltiedig' ar ôl dilyn y ddolen isod. Mae'r pecynnau Rheoli Meddyginiaethau a Gofal, Tosturi a Chyfathrebu yn cynorthwyo myfyrwyr nyrsio i ddeall elfennau a rheolau ynghlwm â rhannau yma o rôl y nyrs. Bwriad y pecynnau Rheoli Poen Aciwt ac Oriau Canolbwyntio yw cynnig dull arall o ddysgu i fyfyrwyr nyrsio ynglŷn â gofalu am glaf mewn poen a chlaf sy'n dioddef o ganser.
Problemau a Datrysiadau yn y Gwyddorau Ffisegol
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys chwe pecyn o adnoddau yn ymwneud ag egwyddorion craidd sylfaenol Mathemateg a Ffiseg. Maent yn cynnwys problemau a datrysiadau, gyda’r amcan o gynyddu'r derminoleg Gymraeg yn y pynciau a chodi hyder myfyrwyr i ymdrin â'r pynciau yn y Gymraeg. Ceir set o esiamplau ac ymarferion theoretig ac ymarferol ar gyfer pob un o'r chwe phwnc dan sylw.
Pamffledi Ffeithiau a Fformiwlâu
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o daflenni ffeithiau a fformiwlâu Mathemateg sy'n gyfieithiadau o rai gwreiddiol y Mathcentre www.mathcentre.ac.uk.
Môr yr Iwerydd a Thywydd Cymru
Fideo sy'n dangos sut mae cylchrediad dŵr yng ngogledd Môr yr Iwerydd yn effeithio ar dywydd Cymru. Jess Mead Silvester (myfyriwr PhD ar y pryd mewn Ffiseg Eigion) sydd wedi sgriptio ac sy'n cyflwyno.
Holiadur Pryder Perfformiad
Crewyd yr adnodd hwn er mwyn darparu cefnogaeth seicoleg chwaraeon cyfrwng Cymraeg i athletwyr sy'n siarad Cymraeg. Y nod yw deall yr ymateb pryder perfformiad yn llawn.
Daearyddiaeth - Astudio a Dehongli'r Byd a'i Bobl
Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2020 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Mae'r llyfr digidol, cyffrous a chynhwysfawr hwn yn ymdrin ag amrediad eang o themâu a astudir fel rhan o bwnc Daearyddiaeth, gan gynnwys prosesau dynol, ffisegol ac amgylcheddol. Mae'n addas i fyfyrwyr Safon Uwch, ynghyd â'r rheiny sy'n astudio Daearyddiaeth yn y Brifysgol.
Gweithdai Bioamrywiaeth
Adnoddau sy'n deillio o weithdai bioamrywiaeth a gynhaliwyd gyda myfyrwyr UG a Safon Uwch. Nod y gweithdai oedd rhoi profiad i'r myfyrwyr o dechnegau electrofforesis, PCR ('Polymerase chain reaction') a'r ffyrdd y cânt eu gweithredu.Adnoddau sy'n deillio o weithdai bioamrywiaeth a gynhaliwyd gyda myfyrwyr UG a Safon Uwch. Nod y gweithdai oedd rhoi profiad i'r myfyrwyr o dechnegau electrofforesis, PCR ('Polymerase chain reaction') a'r ffyrdd y cânt eu gweithredu.
Arbrofion a Thechnegau Labordy
Cyfres o glipiau ffilm byrion gyda Dr Heledd Iago yn dangos gwahanol gamau pwysig a ddefnyddir mewn arbrofion a thechnegau labordy ar draws y Gwyddorau Biolegol.
Adnoddau Ystadegol i fyfyrwyr Daearyddiaeth a'r Gwyddorau Daear
Dyma becyn adnoddau sydd cyflwyno enghreifftiau o sut i ddefnyddio technegau ystadegol mewn traethawd ymchwil israddedig. Mae'n cynnwys 12 pennod hunanhyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ail flwyddyn, yn cynnwys: ymdriniaeth ag adnoddau priodol a data cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (SGDd / GIS). Mae'r pecyn yn cynnwys llawlyfr a ffeiliau data
Y Meddwl Modern: Weber – Ellis Roberts
Cydnabyddir Max Weber yn un o bennaf sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Mae'r gyfrol hon yn ei leoli yn nhraddodiad cymdeithaseg ac yn amlinellu rhai o'i brif gyfraniadau: ei syniad am 'verstehen' neu 'ddychymyg cymdeithasegol', ei ran yn y drafodaeth fawr ynghylch perthynas cyfalafiaeth â'r grefydd Brotestannaidd, a'i 'deipiau ideal' neu ddiffiniadau o hanfodion cyfundrefnau arbennig.
Y Meddwl Modern: Marx – Howard Williams
Darlun o fywyd Karl Marx: ei syniadau, gwreiddiau ei athroniaeth a'i ddylwanwad ar y byd.