Mae pecyn 'Animo' yn cynnwys gwerslyfr, llyfr gwaith gramadeg ac atebion i'r llyfr gwaith gramadeg. Maent yn: cynnig cefnogaeth cynhwysfawr o ran sgiliau a gramadeg, ac yn cefnogi'r myfyrwyr i ddeall a thrin iaith newydd; cefnogi sgiliau dysgu annibynnol; darparu profion diwedd thema i fesur cynnydd. Wedi eu hanelu yn bennaf at ymgeiswyr Uwch Gyfrannol/Safon Uwch Sbaeneg, maent hefyd o fudd i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau gradd Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd gofynion hawlfraint, bydd angen i chi gael cyfrinair i gael mynediad at adnoddau Animo. Cwblhewch y ffurflen electroneg a bydd y Coleg yn anfon y cyfrinair atoch.
Animo (adnoddau Sbaeneg/Cymraeg)
Rheoli amser a phwysau gwaith
Yn ystod yr amser ansicr hwn gall fod yn dasg a hanner i reoli amser yn effeithiol. Wrth i nifer ohonom addasu i weithio o bell, tra bod eraill yn dysgu addasu i weithio mewn awyrgylch wahanol ar y campws, gall reoli amser fod yn heriol. Dyma gyfle ymarferol i adolygu eich steil personol yn nhermau sut fyddwch chi'n rheoli eich gwaith, pobl, gweinyddiaeth, cydbwysedd bywyd a gwaith ac ati. Cynnwys: Mae gweithio yn rhithiol a rheoli pwysau gwaith amrywiol ynghyd â sialensiau gofal yn y cartref wedi herio y rhan fwyaf ohonom yn ddiweddar. Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i feddwl am y pwysau newydd a’r effaith ar ein hamser, a bydd cyfle i ystyried ffyrdd o weithio yn fwy effeithiol yn unigol ac fel tîm. Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu: Adnabod problemau a chynhyrchu rhaglen weithredu. Adnabod y ffyrdd amlycaf o wastraffu amser. Gweithio yn well trwy gynllunio a blaenoriaethu. Gwneud defnydd effeithiol o’r dyddiadur/trefnydd personol. Cael gwared â phentwr o waith papur a negeseuon e-bost. Gwneud defnydd effeithiol o amser gydag eraill. Bywgraffiad Mari Ellis Roberts Mae Mari yn Swyddog Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfrifol am y ddarpariaeth Datblygu Staff mewnol. Yn ogystal mae hi’n rheoli cynllun Cymhelliant a Mentora'r Brifysgol ac yn rhedeg gweithdai effeithiolrwydd personol megis sgiliau rheoli amser, gosod nodau effeithiol ayb.
Charlotte Greenway ac Alison Rees Edwards, 'Agweddau Athrawon tuag at ADCG: Adolygiad ac Argymhellion ar gyfer...
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y cyfraddau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) mewn dosbarthiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn llenyddiaeth, cydnabyddir arwyddocâd agweddau athrawon tuag at ADCG wrth iddynt wneud penderfyniadau am atgyfeirio ac ymyrraeth (Anderson et al., 2012) a sut y mae eu hagweddau’n effeithio ar ymddygiad a chanlyniadau disgyblion (Rush a Harrison 2008). Mae angen i athrawon ddarparu cefnogaeth i’r plant hyn ond, yn aml, maent yn teimlo’n amwys tuag at ADCG oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol (Alkahtani 2013), gwybodaeth anghyson ynghylch yr anhwylder (Dryer, Kiernan a Tyson 2013), gwahanol ddisgwyliadau diwylliannol (Moon 2012) a systemau addysgol (Timimi a Radcliffe 2005). Mae’r papur hwn yn darparu adolygiad o’r llenyddiaeth ynghylch agweddau athrawon tuag at ADCG, yn archwilio’r cyfyngiadau yn y llenyddiaeth gyfredol a’r pryderon ynghylch mesur agweddau athrawon tuag at ADCG. Mae’r papur yn gorffen gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Einion Dafydd, 'Yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Undeb Ewropeaidd: Crefydd a Llywodraethiant yn yr Unfed Ganrif...
Mae’r astudiaeth hon yn ystyried sut y mae’r Eglwys Gatholig Rufeinig a’r gymuned Gatholig ehangach yn ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Amlinella ffurf sefydliadol a threfniadaethol y prif gyrff Catholig sy’n weithredol ym Mrwsel, a dengys sut y maent yn ymwneud â phrosesau polisi’r UE. Seilir y gwaith dadansoddi ar gorff o gyfweliadau gwreiddiol a gynhaliwyd ag ymarferwyr. Dengys fod y berthynas rhwng y gymuned Gatholig a’r UE yn gweithredu ar dair lefel – lefel ddiplomyddol, lefel led ffurfiol a sefydliadol, a lefel anffurfiol – a bod yn rhaid cadw golwg ar y tair lefel er mwyn cael darlun clir o’r modd y gweithreda’r gymuned Gatholig mewn perthynas â’r UE. Cyflwynir tair set o oblygiadau sy’n datblygu dealltwriaeth o rôl crefydd mewn llywodraethiant cyfoes.
Jerry Hunter, 'Perthnasedd Poen ac Undonedd: Kate Roberts a Ffuglen y 1930au' (2021)
Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiad ffuglen Gymraeg yn y 1930au, a hynny trwy archwilio gwahanol syniadau ynglŷn â natur realaeth. Mae craffu ar ohebiaeth Saunders Lewis a Kate Roberts yn fodd i ddadansoddi’r modd y syniai’r ddau lenor am hanfodion estheteg realaidd. Trafodir ymateb Saunders Lewis i ddrafft cyntaf y nofel Traed mewn Cyffion ac awgrym Kate Roberts wrth amddiffyn hanfod y gwaith fod ‘poen ac undonedd’ yn berthnasol yn y 1930au ac yn themâu llenyddol dilys. Awgrymir bod apêl Kate at waith y nofelydd Gwyddelig, Peadar O’Donnell, yn bwysig er mwyn deall ei hestheteg hi. Edrychir wedyn ar y berthynas rhwng Traed mewn Cyffion ac un o nofelau O’Donnell, Islanders.
Canllawiau Creu Adnoddau Dysgu Digidol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r canllawiau yma'n cyflwyno pethau i'w hystyried wrth fynd ati i greu adnoddau dysgu digidol. Mae'r canllaw yn cyfierio at yr elfennau canlynol: Ymchwilio a chynllunio Awduro'r cynnwys Hygyrchedd a hawlfraint Llwyfannu adnodd ar y Porth Adnoddau Twlcit creu adnoddau (rhestr o feddalwedd) Rhestr wirio creu adnodd Rhestr wirio hygyrchedd Yn ogystal, mae dolen i Ganllaw Dylunio Dwyieithog Comisiynydd y Gymraeg. Mae'r canllaw hwn yn sôn am sut i gwflwyno'r ddwy iaith wrth ddylunio cynnwys.
Gweithdy Newid Ymddygiad
Mae'r adnodd hwn wedi'i adeiladu ar gyfres o weithdai newid ymddygiad. Mae'r adnodd yn recordiad o gyflwyniad sy'n cysyniadoli ymddygiad rhesymol ac afresymol, yn trafod ffactorau sydd yn effeithio ar ddewis cyfrwng addysg uwch ac yn amlinellu fframwaith newid ymddygiad (ac yn cynnwys enghraifft syml o sut i'w ddefnyddio). Mae'r adnodd yn berthnasol i unrhywun o fewn y sector addysg uwch sydd am ddefnyddio mewnwelediadau neu ymagwedd ymddygiadol i newid ymddygiad. Mae ymagwedd o'r fath yn cydnabod pwysigrwydd fframio dewisiadau a natur afresymol ein ymddygiad, ac yn boblogaidd iawn ymysg llywodraethau a gwneuthurwyr polisi. Dylid wylio'r cyflwyniad, ac mae modd defnyddio'r enghraifft fel ysbrydoliaeth i'ch defnydd chi o ymagwedd ymddygiadol neu defnydd o'r fframwaith.
'Cefn Llwyfan’ Dilyn Gyrfa ym maes Celf a Dylunio (24 Mawrth 2021)
Ydych chi'n astudio Celf, Dylunio a Thechnoleg, neu ddiddordeb yn y maes? Beth am ddod i wylio sgwrs hynod ddiddorol yng nghwmni 4 artist Cymreig ifanc sy’n sefydlu ei hunain yn y byd Celf a Dylunio yng Nghymru a thu hwnt. Trefnir sgwrs zoom ‘Cefn Llwyfan’ Dilyn Gyrfa ym maes Celf a Dylunio mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ysgol Gelf Coleg Sir Gâr, Coleg Celf Abertawe a Choleg Celf Caerdydd. Manylion y cyfranwyr: Y ffotograffydd Carys Huws Y grefftwraig Alis Knits Y dylunydd Llio Davies Yr arlunydd Tomos Sparnon
“Can I just call you Clio? Like the Renault?” Cerdd gan Llio Elain Maddocks
Y bardd Llio Elain Maddocks yn darllen cerdd o'i gwaith - "Can I just call you Clio? Like the Renault?” Stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi, vol.8 - i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 2021. I ddarllen mwy o insta-gerddi Llio, ewch i'w dilyn hi ar Instagram @llioelain. © Llio Elain Maddocks 2021
Mamiaith gan Rhys Iorwerth
Cerdd newydd, 'Mamiaith' gan Rhys Iorwerth i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Mamiaith 2021. Yn cynnwys fideo o'r gerdd a chopi PDF o'r geiriau ar gyfer deunydd astudio. © Rhys Iorwerth 2021
Cynhadledd 'Llais y Plentyn'
Cynhadledd ar gyfer myfyrwyr addysg, gofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd y gynhadledd yn trafod bywyd plant Cymru gan gynnwys: effaith Covid-19 ar blant, hiliaeth, a'r system eiriolaeth. Ceir hefyd gyflwyniad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland. Cynhaliwyd y gynhadledd ar 24 Chwefror 2021. Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r cyflwyniadau:
Adnoddau Iechyd a Lles
Yma, cewch fynediad at adnoddau iechyd a lles y gellid eu defnyddio mewn darlith, seminar neu mewn cyfarfod tiwtora personol. Yn cyd-fynd a phob adnodd, mae taflen cyfarwyddiadau i'r darlithydd Mae'r adnoddau yn cynnwys: Gweithgaredd 1: Yr Olwyn Lles Cyfarwyddiadau: Yr Olwyn Lles Gweithgaredd 2: Yr arf hunan-asesu lles Cyfarwyddiadau: Yr arf hunan-asesu lles Paratowyd y gwaith gan Dyddgu Hywel, Uwch Ddarlithydd Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Ffynonellau Cymorth Os oes gennych argyfwng meddygol, problem ddifrifol neu sy’n fygythiad i fywyd, ffoniwch 999 Os ydych yn gofidio am eich iechyd meddwl, y cam cyntaf i gael help yw dweud hyn wrth eich meddyg teulu. Ceir rhestr o linellau cymorth, elusennau a gwybodaeth defnyddiol ar wefan meddwl.org