Cynhadledd ar gyfer myfyrwyr addysg, gofal plant a gwasanaethau plant a phobl ifanc mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach. Bydd y gynhadledd yn trafod bywyd plant Cymru gan gynnwys: effaith Covid-19 ar blant, hiliaeth, a'r system eiriolaeth. Ceir hefyd gyflwyniad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland. Cynhaliwyd y gynhadledd ar 24 Chwefror 2021. Cliciwch isod i wylio recordiadau o'r cyflwyniadau:
Cynhadledd 'Llais y Plentyn'
Cynhadledd Ymchwil Ar-lein 2021
Cynhadledd a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021 ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddwyd gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian. Bwriad y gynhadledd oedd rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Roedd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Cliciwch isod i weld recordiad o'r gynhadledd sy'n cynnwys sesiynau cwestiynau ac ateb ar y cyflwyniadau. Mae hefyd dolenni i weld y posteri ymchwil a gyflwynwyd.
Doctoriaid Yfory 4 2021-2022
Bwriad cynllun Doctoriaid Yfory yw cefnogi dysgwyr sydd ym mlwyddyn gyntaf o'u hastudiaethau yn ein colegau Addysg Bellach, ac ym mlwyddyn 12 yn ein hysgolion, sy'n siarad Cymraeg ag sydd am ymgeisio i astudio Meddygaeth yn y brifysgol. Mae'r cynllun yn cynnig cefnogaeth arbenigol gan aelodau o staff Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe sydd ynghlwm â'r broses ymgeisio. Gyda chefnogaeth staff y prifysgolion bydd y gweithdai canlynol yn cael eu trefnu: Mawrth: Cyflwyniad, Paned a Chlonc gyda Menai Evans, Sara Whittam, Sara Vaughan. Ebrill: Profiad gwaith gyda Llinos Roberts Mai: Cwricwlwm C21 gyda Rhian Goodfellow a Sut i Ddewis Cwrs gyda Myfyrwyr Meddygol Prifysgol Caerdydd Mai: Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r ysgoloriaeth CCC gydag Awen Iorweth ac Alun Owens Mehefin: Ysgrifennu Datganiad Personol Gorffennaf: Llwybrau Amgen gydag Alwena Morgan a [Siwan Iorwerth a Ffraid Gwenllian TBC] Medi: Speed Dating gyda meddygon proffesiynol! Hydref: Sesiwn cwestiwn ac ateb Datganiad Personol Tachwedd: Ymarfer MMIs Rhagfyr: Ymarfer MMIs
Symudiad i mewn ac allan o gelloedd
Cafodd yr adnodd ei greu ar gyfer myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Lefel 3 ond mae’r wybodaeth yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio bioleg ar lefel 3 megis Iechyd a Gofal neu Safon Uwch. Mae’n canolbwyntio ar rannau’r gelliben a sut mae elfennau yn symud i mewn ac allan o gelloedd. O fewn y cyflwyniad mae gweithgareddau i wirio eich dysgu. Addaswyd yr adnodd gan Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Goleg Sir Gâr am rannu'r cynnwys gwreiddiol.
Cyfathrebu (Egwyddorion a Chyd-destunau Lefel 3)
Adnodd i annog a chefnogi cyfathrebu effeithiol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae’r adnodd yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio cysriau lefel 3 megis Egwyddorion a Chyd-destunau (Lefel 3). Oherwydd ei fod yn bwnc cyffredin, gall y wybodaeth yma for yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yn y maes iechyd, e.e. Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gymuned. Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Grŵp Llandrillo Menai am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Mathau o gyfathrebu yn y sector iechyd a gofal
Adnodd sy’n uwcholeuo mathau o gyfathrebu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw hwn. Mae’r adnodd yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau lefel 3 yn y maes megis Egwyddorion a Chyd-Destunau neu Safon Uwch. Oherwydd ei fod yn bwnc cyffredin, gall y wybodaeth yma fod yn ddefnyddiol i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yn y maes iechyd e.e. Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi neu yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn y gymuned. Addaswyd yr adnodd hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Diolch i Grŵp Llandrillo Menai am rannu’r cynnwys gwreiddiol.
Cennydd Owen Jones, 'Adolygiad o Ffynonellau AmgylcheddolTwbercwlosis Buchol (Mycobacterium bovis)' (2021)
Mae twbercwlosis buchol (bovine tuberculosis; bTB) yn un o brif heriau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, a bu’n gyfrifol am ddifa 10,974 o wartheg rhwng Mehefin 2019 a Mai 2020 (DEFRA, 2020). Amcangyfrifir cost flynyddol i’r trethdalwr o £15 miliwn yng Nghymru yn unig i reoli’r clefyd sydd yn cynnwys costau milfeddygol, iawndal i’r ffermwyr, costau gweinyddol, ac ati. Yn ogystal â hyn, mae delio â’r clefyd yn cael effaith ar iechyd meddwl yr holl unigolion sydd ynghlwm ag ef. Mae’r cyswllt rhwng bywyd gwyllt a thwbercwlosis buchol yn amlwg yn bwnc llosg parhaol, ond beth am y rôl y mae’r amgylchedd yn ei chwarae o ran meithrin a lledaenu’r clefyd hwn? Mae rhai gwyddonwyr wedi ymchwilio i’r cwestiwn hwn gan lwyddo i brofi ar lefel labordy bod yr amodau sydd yn bresennol yn amgylchedd y fuwch yn rhai ffafriol i M. bovis. Serch hynny, prin yw’r ymchwil ar lefel fferm, yn enwedig mewn ardaloedd sydd yn dioddef achosion cronig o dwbercwlosis buchol. Diben yr adolygiad llenyddiaeth hwn yw amlygu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru a’r wyddoniaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd parthed TB buchol amgylcheddol.
Lletygarwch – Cyflwyno Gwasanaeth Cwsmer Ardderchog
Mae gofal cwsmer gwych yn rhan annatod o weithio mewn sawl maes ond yn enwedig ym maes lletygarwch. Ceir isod fideo sy'n cyflwyno 8 awgrym ar gyfer cynnal gwasanaeth cwsmer lletygarwch ardderchog. Yn ogystal, mae fideo sy'n cyflwyno cwmni Hyfforddiant Cambrian i’r prentis ac yn amlinellu’r ystod o wasanaethau sydd ar gael. Datblygwyd yr adnoddau isod gan Hyfforddiant Cambrian dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir ystyried y cynnwys hwn yn arfer da a gall y cyflwyniadau fod o ddefnydd i ddarparwyr prentisiaethau o fewn meysydd eraill.
Geiriadur Cymraeg - Ffrangeg
Mae’r geiriadur Cymraeg-Ffrangeg / Ffrangeg- Cymraeg ar-lein yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio tuag at radd yn y pwnc, yn ogystal â myfyrwyr Safon Uwch a gweithwyr proffesiynol. Er mai’r brif gynulleidfa yw myfyrwyr Safon Uwch ac Addysg Uwch, bydd y geiriadur cyfoes hwn ar gael ac yn ddefnyddiol i unrhyw gynulleidfa gyhoeddus sydd â diddordeb mewn Cymraeg, Ffrangeg ac ieithoedd yn gyffredinol. Diolch i CAA a Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth wrth fynd ati i addasu a diweddaru’r geiriadur gwreiddiol a’i ddarparu bellach yn ddigidol.
Ail gartrefi: Datblygu polisÏau newydd yng Nghymru
Adroddiad Dr Seimon Brooks, Athro Cyswllt yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ar Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru. Ar ôl i Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe dderbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cafodd Dr Simon Brooks ei gomisiynu i lunio adroddiad am bolisïau trethiannol a chynllunio ar gyfer ail gartrefi yng Nghymru a Chernyw. Fodd bynnag, oherwydd y diddordeb cynyddol yn y pwnc llosg, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r ymchwilydd ehangu’r ymchwil er mwyn craffu ar rai materion ehangach yn ymwneud ag ail gartrefi yn ogystal â gwneud argymhellion polisi.
Gwyl Celf ar y Map 2021 (Mawrth 2021)
MAP - Myfyrwyr, Arloesi, Perfformio Gŵyl rithiol i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg. Nod ‘Gŵyl Celf a Dylunio ar y MAP’ yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg i ddod ynghyd mewn un man i rannu a thrafod eu gwaith ac i elwa ar brofiad artistiaid ac eraill sy’n gweithio yn y diwydiant. Eleni am y tro cyntaf cynhaliwyd Gŵyl Celf a Dylunio ar y Map mewn tair sesiwn ar-lein yn ystod mis Mawrth. Wythnos 1: Cyflwyniadau a theithiau rhithiol o gwmpas Amgueddfeydd Cymru. Wythnos 2: Cyflwyniadau gan yr artistiaid Cefyn Burgess a Valériane Leblond Wythnos 3: Cyflwyniadau gan Gareth TW Rees ac Eddie Ladd Roedd cyfle i fynychwyr ymateb i'r cyflwyniadau amrywiol drwy ddilyn briff wythnosol a rhannu eu gwaith ar Instagram gan ddefnyddio'r hashnodau canlynol: Wythnos 1: #datblyguMAP21 #cadMAP21 Wythnos 2: #datganMAP21 #cadMAP21 Wythnos 3: #creuMAP21 #cadMAP21 Cliciwch isod i weld recordiadau o'r sesiynau arbennig.
Mentimeter
Dyma weithdy i'ch rhoi chi ar ben ffordd wrth ddefnyddio gwefan Mentimeter yn hyderus yn eich addysgu fel ffordd o ymgysylltu a'ch myfyrwyr. www.mentimeter.com Bydd y gweithdy hwn o fudd i unrhyw un sydd am ddatblygu ac adeiladu ar ddulliau addysgu ar-lein, dysgu arloesol, cyflwyno ar-lein ac ymgysylltu gyda myfyrwyr. Cefndir Hyfforddwr: Mae'r sesiwn hon yn cael ei harwain gan Dyddgu Hywel. Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, ymgysylltu a myfyrwyr a’r defnydd o dechnoleg.