Mae Gwerddon Fach yn cyhoeddi erthyglau academaidd byrion i roi blas i gynulleidfa eang o’r ymchwil ddiweddaraf gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt Yn ogystal â chyhoeddi fersiynau poblogaidd o erthyglau hirach sy’n cael eu cyhoeddi yn e-gyfnodolyn Gwerddon ei hun, mae croeso i bobl gyfrannu erthyglau byrion oddeutu 600 – 1,000 o eiriau am unrhyw ymchwil sydd o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach – boed yn adroddiad ar eu gwaith ymchwil diweddaraf nhw a’u cydweithwyr, yn ymateb i ddarganfyddiadau o bwys neu drafodaethau polisi cyhoeddus a materion cyfoes, yn adroddiad ar drafodion cynhadledd academaidd, neu’n gyflwyniad syml i bynciau ymchwil dyrys. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu erthygl, gallwch lawrlwytho copi o'r canllawiau (gweler isod), ac yna cysylltwch â Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddon: hmg@aber.ac.uk. Gwefan: https://golwg.360.cymru/gwerddon
Gwerddon Fach ar Golwg 360 - cyfrannu erthygl
Gwerddon - cyfrannu erthygl
Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn academaidd cyfrwng Cymraeg. Cyhoeddir Gwerddon ar y we o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac mae’n cynnwys ymchwil ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Dau brif amcan sydd i Gwerddon, sef symbylu a chynnal trafodaeth academaidd ar draws ystod eang o feysydd a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg. A oes gennych ddiddordeb cyfrannu erthygl i Gwerddon? Dylid dilyn canllawiau golygyddol Gwerddon (gweler isod) a gwneir penderfyniad golygyddol p’un ai derbynnir erthygl i'w chyhoeddi ai peidio yn dilyn proses arfarnu annibynnol. Mae'r canllawiau golygyddol yn cynnwys canllawiau ar sut i baratoi erthygl i'w chyhoeddi yn Gwerddon. Rhaid rhoi sylw hefyd i'r Canllaw Iaith (gweler isod) cyn cyflwyno erthygl. Mae Gwerddon yn croesawu allbynnau sydd ar ffurf ymarfer fel ymchwil. Gwahoddir awduron i gyflwyno’r allbwn ar ffurf ffeil gyfrifiadurol gyda dogfen ysgrifenedig atodol o hyd at 4,000 o eiriau yn rhoi sylw i’r elfennau canlynol: cyd-destun, cwestiynau ymchwil a methodoleg. Gellir cyflwyno llyfryddiaeth ddethol os yn berthnasol. Dylid anfon erthyglau at gwybodaeth@gwerddon.cymru Gwefan Gwerddon: http://gwerddon.cymru
Huw L. Williams, 'Y Llwybr tuag at Heddwch Parhaol: John Rawls a’r Athrawiaeth Rhyfel Cyfiawn'
Mae athrawiaeth John Rawls ynghylch rhyfel cyfiawn yn cael ei dehongli’n bennaf fel estyniad ar ddamcaniaeth Walzer. Fodd bynnag, o’i ystyried yng ngoleuni ymrwymiad Rawls i feirniadaeth Kant, a natur iwtopaidd ei fyfyrdodau ar gysylltiadau rhyngwladol yn The Law of Peoples, ymddengys ei safbwynt ar ryfel yn un nodedig a beiddgar. Mae dylanwad Kant yn amlwg ar ei athrawiaeth soffistigedig, sydd wedi ei nodweddu gan heddwch fel egwyddor lywodraethol rhyfel, ac egwyddorion rhyfel cyfiawn sydd yn gyfystyr â chyfiawnder dros dro, nad ydynt byth yn gwbl gyfiawn. Daw persbectif sgeptigol i’r amlwg felly sy’n gwrthod estyn ei athrawiaeth ar ryfel cyfiawn i ryfela dyngarol. Colomen yn hytrach na hebog fyddai’r gwladweinydd Rawlsaidd, wedi’i ymrwymo i’r gred fod rhyfel yn ddrygioni i’w osgoi a’i orchfygu, a bod modd gweithio tuag at heddwch parhaol.
Gwerddon Fach ar Golwg360
Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2020 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Mae Gwerddon Fach yn cyhoeddi erthyglau academaidd byrion i roi blas i gynulleidfa eang o’r ymchwil ddiweddaraf gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt Yn ogystal â chyhoeddi fersiynau poblogaidd o erthyglau hirach sy’n cael eu cyhoeddi yn e-gyfnodolyn Gwerddon ei hun, mae croeso i bobl gyfrannu erthyglau byrion oddeutu 600 – 1,000 o eiriau am unrhyw ymchwil sydd o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach – boed yn adroddiad ar eu gwaith ymchwil diweddaraf nhw a’u cydweithwyr, yn ymateb i ddarganfyddiadau o bwys neu drafodaethau polisi cyhoeddus a materion cyfoes, yn adroddiad ar drafodion cynhadledd academaidd, neu’n gyflwyniad syml i bynciau ymchwil dyrys. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu erthygl, cysylltwch â Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddon: hmg@aber.ac.uk. Teitlau erthyglau Gwerddon fach: Atgofion o'r atgofion: Yn eu Geiriau eu Hunain 25 mlynedd yn ddiweddarach Sepsis; ei erwindeb a’r angen am ddatblygiadau cyflym Cyfleoedd i blant awtistig – mewn dwy iaith Capel Sion, Ponthir, a chofio’r Rhyfel Mawr Cysgod y Gymraeg dros Westeros Economi: y llaw amlwg nid y llaw gudd Iechyd meddwl a’r Gymraeg – mae’n amser deffro Gwynt yr haul – datguddio rysáit ar gyfer tyrfedd magnetig Egwyddor a phropaganda: cyfundrefn Franco a Chôr y Rhos Golau Byw Enwau Prydeinig Gwyn? Beth am enwau Cymraeg? Negeseuon o Wlad yr Addewid MONOPOLI – Defnyddio mathemateg i ennill Mae angen dŵr a haul i dyfu: tlodi addysg wledig yng Nghymru Llaeth a chig – datrys problemau’r diwydiant ar draws y byd Darllen yn rhugl – seiliau seicolegol Cenedlaetholdeb ar y cae
Lowri Edwards et al., 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn...
Mewn adroddiad yn 2013, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod codi statws Addysg Gorfforol (AG) i fod yn bwnc craidd, fel Cymraeg a Mathemateg, yn hanfodol er mwyn ceisio atal yr epidemig gordewdra presennol. Serch hynny, mae'n rhaid cael gwersi AG o ansawdd uchel er mwyn cael effaith gorfforol gadarnhaol ar ddisgyblion. Mae gan athrawon AG rôl hanfodol wrth weithredu AG o ansawdd uchel, ac felly bydd deall eu canfyddiadau ynghylch AG o ansawdd uchel yn bwysig. Cynhaliwyd cyfweliadau gyda deg o athrawon AG ysgolion cyfrwng Cymraeg de Cymru (saith dyn a thair menyw). Daeth i'r amlwg fod tebygrwydd rhwng theori cyfredol yn y maes a chanfyddiadau'r athrawon, er enghraifft pwysigrwydd creu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yna wahaniaethau rhwng y theori a'r ymarfer, er enghraifft dryswch gyda'r term llythrennedd corfforol. Goblygiad yr astudiaeth yw fod angen ymgynghori gydag athrawon AG i lunio polisïau AG o ansawdd uchel. Yn y dyfodol dylid cynnal ymchwil gweithredol i hybu'r term llythrennedd corfforol. Lowri Edwards, Anna Bryant ac Anwen Mair Jones, 'Canfyddiadau athrawon Addysg Gorfforol ynghylch Addysg Gorfforol o ansawdd uchel o fewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ne Cymru', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 44-60.
Gruffydd Jones et al., 'Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioam...
Llwyn bytholwyrdd coediog yw Rhododendron ponticum L., sy'n aelod o deulu'r Ericaceae. Daw yn wreiddiol o Sbaen, Mynyddoedd y Cawcasws ac arfordir y Môr Du. Cafodd ei gyflwyno i Brydain yn y ddeunawfed ganrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi datblygu i fod yn un o rywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Prydain, gan achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn trafod hanes R. ponticum yng Nghymru, gan ystyried y ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yma. Disgrifir y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o niwed y mae'n eu hachosi, yn ogystal â'r ymdrechion i reoli ei ymlediad. I gloi, bydd yr erthygl yn edrych ar rai o heriau amgylcheddol y dyfodol, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar ymlediad R. ponticum. Gruffydd Jones, John Scullion, Ana Winters, Rhys Owen, John Ratcliffe, Doug Oliver a Dylan Gwynn-Jones, &lsquoRhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a'i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a'r dyfodol', Gwerddon, 27, Hydref 2018, 20-38.
A. Russell Davies, 'Dadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol' (2017)
Mae sbectrwm llaciad defnydd glud-elastig yn allweddol i ddisgri o ei fecanweithiau llaciad ar lefel folecwlar. Mae hefyd yn chwarae rhan sylfaenol mewn cyrchu dosraniad pwysau molecwlar, ac mewn modelu dynameg llifyddion cymhleth. Ni ellir mesur y sbectrwm llaciad yn uniongyrchol, ond mae'n bosibl ei ddarganfod yn rhannol drwy fesuriadau arbrofol o ymateb glud-elastig ar lefel facrosgopig. Yn benodol, dosraniad di-dor o amserau llaciad yw'r sbectrwm llaciad, y gellir ei adfer, o leiaf yn lleol, wrth fesur modwlws cymhlyg y defnydd. Er y bu mynegiadau mathemategol ar gael am y sbectrwm di-dor am dros ganrif neu fwy, nid oedd y rhain yn caniatáu gweithredu rhifi adol am sawl degawd, gan fod hyn yn golygu gweithredyddion gwrthdroi nad ydynt yn ddi-dor, ac yn arwain at ansadrwydd eithriadol. Symudwyd ymlaen pan gyflwynwyd, rhyw ddau ddegawd yn ôl, ddulliau rheoleiddiadol am frasamcanu sbectrymau llinell arwahanol. Er hyn, roedd yn rhaid aros tan 2012 cyn i Davies a Goulding gynnig dull rheoleiddiad tonnell i adfer sbectrymau di-dor mewn fframwaith mathemategol manwl gywir. Datblygwyd y gwaith hwn ymhellach yn 2016 wrth gyflwyno ffurf fathemategol spectrosgopeg deilliad trefn uchel, sy'n cynnwys dilyniannau o ddeilliadau modwli dynamig, a elwir yn ddilyniannau Maclaurin. Yn yr erthygl hon, cyflwynir cyfi awnhad manwl gywir am ddefnyddio dilyniannau Maclaurin. Ymhellach, cyflwynir dilyniant newydd, a elwir yn gywiriad dilyniant tonnell, sy'n cyflawni'r un cywirdeb manwl â dilyniannau Maclaurin, gyda threfn differiad is. A. Russell Davies, 'Dadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol', Gwerddon, 24, Awst 2017, 22-37.
Aled Gruffydd Jones, 'Gwerddon: gwyrddlasu anialdir? Rhai sylwadau ar hanes e-gyfnodolyn academaidd Cymraeg' (...
Ar achlysur ei ddeuddegfed pen-blwydd a’i ganfed erthygl, olrheinir yn yr erthygl hon hanes Gwerddon fel e-gyfnodolyn academaidd ac fel datblygiad cyffrous yn natblygiad diweddar yr uwchefrydiau yn y Gymraeg. Er iddo ymddangos am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2007, taera’r awdur fod ei wreiddiau’n gorwedd yn ddwfn yn hanes defnydd y Gymraeg ledled y disgyblaethau academaidd yn ein sefydliadau Addysg Uwch yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn y Gwyddorau yn ogystal â’r Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol ...
Gan elwa ar haen hynod gyfoethog o archifau cenhadol Cymreig yn India'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn yr ugeinfed ganrif, mae'r erthygl yn tynnu sylw at y modd y daeth gofal am y cleifion yn rhan ganolog, ond problemus, o'r Genhadaeth Gristnogol. Tra rhoddodd eu fferyllfeydd, eu clinigau a'u hysbytai lwyfan ac amlygrwydd i'r broses efengylaidd, ar yr un pryd agorwyd ganddynt dyndra dyfnach mewn cyswllt, er enghraifft, â gwleidyddiaeth rhyw a thrawsblannu arferion meddygol Gorllewinol mewn cymdeithas drefedigaethol. Aled Gruffydd Jones, 'Iechyd ac iachawdwriaeth: meddygaeth, y corff a'r drefn foesol ym Mengâl drefedigaethol 1840-1935', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 8-28.
Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru...
Mewn nifer o fannau, mae datganoli wedi creu cyfleoedd newydd i bleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol sicrhau lefelau newydd o gefnogaeth etholiadol, tra bod nifer hefyd wedi'u sefydlu eu hunain fel pleidiau llywodraethol. Fodd bynnag, ychydig iawn o sylw ysgolheigaidd sydd wedi ei roi i'r modd y bydd pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol yn ymaddasu i fod yn actorion canolog ar y lefel ranbarthol. Cyflwyna'r erthygl hon ddwy astudiaeth achos – Plaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego yng Ngalisia – er mwyn astudio sut y bu iddynt ymaddasu i ennill cynrychiolaeth, perthnasedd, a statws plaid lywodraethol ar y lefel ranbarthol. Dadleuir fod profiadau'r pleidiau hyn ymhell o fod yn unigryw. Yn hytrach, maent yn adlewyrchu'r sialensau a wynebir gan unrhyw blaid wrth iddi ddatblygu o fod yn blaid protest, i fod yn blaid mewn grym. Anwen Elias, 'Pleidiau cenedlaetholgar lleiafrifol ac ymaddasu i ddatganoli: Astudiaeth gymharol o Blaid Cymru a'r Bloque Nacionalista Galego', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 45-65.
Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?' (2011)
Mae'r erthygl hon yn astudiaeth o'r berthynas rhwng cenedligrwydd a theatr genedlaethol yng Nghymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol. Ystyrir cenedligrwydd Cymreig yng nghyd-destun y drafodaeth gyfoes ar gysyniadau o'r genedl gan feirniaid blaengar Umut Okirimli a Hans Kohn. Amcan yr erthygl yw archwilio'r cwestiynau hanfodol sy'n codi yn sgil y berthynas hanesyddol a chyfredol rhwng theatr genedlaethol, fel ymarfer celfyddydol, a mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru. Asesir arwyddocâd theatr genedlaethol fel arf i fynegi hunaniaeth genedlaethol a gofynnir y cwestiwn, a ydyw theatrau cenedlaethol newydd yr unfed ganrif ar hugain yn cyfeirio yn ôl at gysyniadau traddodiadol o'r genedl a chenedligrwydd neu, a ydynt, yn hytrach yn gweithredu math newydd ar genedligrwydd cyfoes a ddiffinnir fel, 'an interaction of culutral coalescence and specific political intervention'? Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 45-55.
Anwen Jones, Perfformio dinasyddiaeth: Sisters, cynhyrchiad ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon The...
Prif amcan yr erthygl hon yw gofyn sut mae dinasyddion Cymru fodern yn defnyddio’r adnoddau theatraidd sydd ar gael iddynt er mwyn archwilio a mynegi eu hunaniaethau a’u profiadau cenedlaethol. Man cychwyn y drafodaeth fydd cynhyrchiad o’r enw Sisters, prosiect ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Junoon Theatre Mumbai. Mae Sisters yn ysgogi trafodaeth am ddulliau newydd o greu ac o gyfranogi o theatr sydd yn ymateb yn greadigol i heriau cymdeithas fyd-eang, ddigidol ac ôl-gyfalafol yr unfed ganrif ar hugain. Wrth drin a thrafod y cynhyrchiad a’i gyd-destun, defnyddir gweledigaeth gignoeth Johannes Birringer o theatr gyfoes fel gweithgarwch trawsffurfiannol sy’n canolbwyntio ar gyd-greu anhysbys a dadwreiddiedig fel canllaw i fesur llwyddiant ac arwyddocâd Sisters. Dadleuir hefyd fod yr union amgylchedd cymdeithasol a ysgogodd weledigaeth Birringer yn rhoi pwysigrwydd ffres ar ddadl Amelia Jones am werth ymateb i gynhyrchiad neu berfformiad trwy gyfrwng tystiolaeth eilaidd, neu falurion, chwedl Matthew Reason.