Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymraeg, gan yr Athro Richard Wyn Jones. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.
Darlith Flynyddol 2011: Seiliau Cyfansoddiadol y Ddeddfwrfa Gymreig
Phylip Brake, 'Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau'
Mae'r papur hwn yn ceisio rhoi cyfrif am yr amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg ardal Treorci yng nghwm Rhondda Fawr ar ddiwedd yr 1970au. Gwneir hyn drwy ddefnyddio ac addasu dulliau sosioieithyddol a ddatblygwyd gan arloeswyr yn y maes, yn enwedig William Labov. Dechreuir drwy roi disgrifiad ffonolegol clasurol o Gymraeg y siaradwyr brodorol a recordiwyd. Ond wedyn eir ymlaen i archwilio'r berthynas rhwng yr amrywio 'rhydd' a nodwyd yn iaith y siaradwyr, a hyn drwy gysyniad y newidyn ieithyddol a'r rhwydwaith cymdeithasol. Ceir dadansoddiad manwl o'r data – yn feintiol ac yn ansoddol – sy'n ychwanegu at ein gwybodaeth o dafodieithoedd y Gymraeg, ynghyd â'n helpu i ddeall sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ddewis iaith siaradwyr unigol. Phylip Brake, 'Amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg Treorci ar ddiwedd y saithdegau', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 9-44.
Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?' (2011)
Mae'r erthygl hon yn astudiaeth o'r berthynas rhwng cenedligrwydd a theatr genedlaethol yng Nghymru o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at y presennol. Ystyrir cenedligrwydd Cymreig yng nghyd-destun y drafodaeth gyfoes ar gysyniadau o'r genedl gan feirniaid blaengar Umut Okirimli a Hans Kohn. Amcan yr erthygl yw archwilio'r cwestiynau hanfodol sy'n codi yn sgil y berthynas hanesyddol a chyfredol rhwng theatr genedlaethol, fel ymarfer celfyddydol, a mynegiant gwleidyddol o hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru. Asesir arwyddocâd theatr genedlaethol fel arf i fynegi hunaniaeth genedlaethol a gofynnir y cwestiwn, a ydyw theatrau cenedlaethol newydd yr unfed ganrif ar hugain yn cyfeirio yn ôl at gysyniadau traddodiadol o'r genedl a chenedligrwydd neu, a ydynt, yn hytrach yn gweithredu math newydd ar genedligrwydd cyfoes a ddiffinnir fel, 'an interaction of culutral coalescence and specific political intervention'? Anwen Jones, 'Cymru, cenedligrwydd a theatr genedlaethol: Dilyn y gwys neu dorri cwys newydd?', Gwerddon, 8, Gorffennaf 2011, 45-55.
Hunydd Andrews, 'Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru' (2011)
Yn y papur hwn trafodir astudiaeth uchelgeisiol o oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru. Mae dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y prosiect, sydd yn astudio profiadau dysgwyr ledled y rhanbarth am gyfnod o dair blynedd. Dyma'r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr o'i math yn y maes. Arweinir y gwaith gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru a'r Ganolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol Bangor. Rhwng Medi 2008 ac Awst 2010, dosbarthwyd dau holiadur i ddechreuwyr ar gyrsiau holl ddarparwyr gogledd Cymru. Trafodir isod ganlyniadau'r holiaduron hynny, gan gynnwys agweddau megis cefndir y dysgwyr, eu rhesymau dros ddysgu Cymraeg, eu profiadau yn ystod eu cwrs a'u bodlonrwydd â'r ddarpariaeth. Amlinellir hanes y maes a gosodir yr ymchwil yng nghyd-destun adfywio a chynllunio iaith yng Nghymru a thu hwnt. Hunydd Andrews, 'Llais y dysgwr: Profiadau oedolion sydd yn dysgu Cymraeg yng ngogledd Cymru', Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 37-58.
Cerys Jones et al., 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru' (2010)
Gydag ansicrwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, mae adluniadau o gofnodion parameteorolegol a ffenolegol yn darparu sail gref ar gyfer dadansoddi'r hinsawdd nawr ac yn y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i chwblhau ynghylch hinsawdd hanesyddol Cymru, sy'n amrywio drwy'r wlad oherwydd ffactorau megis topograffeg a chylchrediad atmosfferig. Mae hyn yn arbennig o wir am orllewin Cymru, sydd ag amrywiaeth o amgylcheddau, o 'ddiffeithwch gwyrdd' yr ucheldir i'r gwastatiroedd arfordirol ffrwythlon, lle gellid adlunio hanes helaeth o bosibl o adnoddau dogfennol digyffwrdd. Mae'r potensial yn anferth gan fod ffynonellau posibl gwybodaeth feteorolegol yn cynnwys yr holl ddogfennau crefyddol, swyddogol a phersonol, a allai gynnig cipolwg ar y berthynas rhwng y Cymry a'r tywydd. Cerys A. Jones, Neil Macdonald, Sarah J. Davies, Cathryn A. Charnell-White, Twm Elias a Duncan Brown, 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 34-54.
Elin Royles, 'Llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia' (2010)
Roedd cryfhau ac adfywio democratiaeth yn rhesymeg gyffredin dros sefydlu llywodraeth ranbarthol yn Sbaen ac yn y Deyrnas Unedig. Yn y cyd-destun hwn, mae'r erthygl hon yn ceisio asesu effaith llywodraeth ranbarthol ar y berthynas rhwng cymdeithas sifil a llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a Chatalwnia. Wedi'i seilio ar astudiaethau achos, asesir i ba raddau y mae strwythurau llywodraeth ranbarthol yn hyrwyddo cyfranogiad mewn cymdeithas sifil a dadansoddir effaith llywodraeth ranbarthol ar hunaniaeth cymdeithas sifil. Er y gwahaniaethau, yn y ddau achos, roedd y llywodraethau rhanbarthol wedi ymgymryd ag ymdrechion 'o'r brig i lawr' i adeiladu cymdeithas sifil ac mae'r olaf wedi cyfrannu at y prosiectau adeiladu cenedl yng Nghatalwnia a Chymru. Mae'r canfyddiadau yn tynnu sylw at y goblygiadau democrataidd negyddol o bosibl sy'n deillio o'r cysylltiadau rhwng llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil, ac effeithiau diwylliant gwleidyddol ehangach. Elin Royles, 'Llywodraeth ranbarthol a chymdeithas sifil yng Nghymru a Chatalwnia', Gwerddon, 5, Ionawr 2010, 27-52.
Rhian Hodges, 'Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni' (2010)'
Mae'r system addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru eisoes yn arf cynllunio ieithyddol effeithiol er mwyn trosglwyddo'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Yn ôl Cyfrifiad 2001 mae cynnydd amlwg ymhlith siaradwyr Cymraeg 3–15 oed, ac yn arbennig siaradwyr Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru ers canlyniadau Cyfrifiad 1991. Bwriad y papur hwn yw mynd tu hwnt i'r ystadegau meintiol a chanolbwyntio ar yr ansoddol drwy ddarganfod y prif resymau paham y mae rhieni yn dewis y system addysg hon i'w plant. Lleoliad yr astudiaeth yw Cwm Rhymni, sir Gaerffili. Gweinyddwyd ymhlith rhieni sectorau'r ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yng Nghwm Rhymni gyfuniad o holiaduron meintiol a chyfweliadau ansoddol dwys er mwyn cyflawni'r astudiaeth hon. Y rhesymau dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant yn ôl rhieni sectorau meithrin, cynradd ac uwchradd y sampl oedd rhesymau diwylliannol, addysgol, economaidd a phersonol, fel ei gilydd. Fodd bynnag, rhaid nodi o'r cychwyn mai rhesymau diwylliannol yw prif resymau rhieni'r ardal dros ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant, yn hytrach na rhesymau economaidd a nodwyd mewn sawl astudiaeth flaenorol megis astudiaeth Williams et al, (1978) ar addysg ddwyieithog yn y Rhondda. Cam cyntaf mewn corpws o waith i'r dyfodol yw'r astudiaeth ac un sy'n gobeithio llenwi'r lacunae presennol ym maes Cymdeithaseg Iaith yng Nghymru, yn arbennig o ystyried bod yna ddiffyg amlwg mewn astudiaethau Cymdeithaseg Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Rhian Siân Hodges, ''Tua'r goleuni': Rhesymau rhieni dros ddewis addysg Gymraeg i'w plant yng Nghwm Rhymni', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 9-33.
Leila Salisbury, 'Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r Ferch o'r Scerr'' (2010)'
Mae llawysgrifau Iolo Morganwg (1747-1826), yn ogystal â'i gasgliad o ganeuon gwerin brodorol, yn rhoi cipolwg unigryw i ni ar gyfnod pwysig yn hanes diwylliant Cymru yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif ffocws yr astudiaeth hon yw'r caneuon serch a geir yn ei gasgliad, ynghyd â'r cyd-destun a'r cefndir cymdeithasol ehangach sy'n sail i'r caneuon gwerin. Gellir olrhain y traddodiad hwn i feirdd yr uchelwyr ac, yn arbennig, i oes Dafydd ap Gwilym. Hefyd, trafodir un dôn werin benodol yn fanwl, 'Y Ferch o'r Scerr'. Mae'r stori serch, y dôn werin a'r geiriau sydd fel arfer yn gysylltiedig â'r 'Ferch o'r Scerr' i gyd yn dra hysbys mewn sawl cylch, fodd bynnag, mae'r dôn werin a recordiwyd gan Iolo yn gwbl anhysbys. Leila Salisbury, 'Golwg ar ganeuon serch Iolo Morganwg, gyda sylw arbennig i'r 'Ferch o'r Scerr'', Gwerddon, 5, Ionawr 2010, 53-80.
Adnoddau Ystadegol i fyfyrwyr Daearyddiaeth a'r Gwyddorau Daear
Dyma becyn adnoddau sydd cyflwyno enghreifftiau o sut i ddefnyddio technegau ystadegol mewn traethawd ymchwil israddedig. Mae'n cynnwys 12 pennod hunanhyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ail flwyddyn, yn cynnwys: ymdriniaeth ag adnoddau priodol a data cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (SGDd / GIS). Mae'r pecyn yn cynnwys llawlyfr a ffeiliau data
Huw Lewis, 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?' (2010)
Mae polisiau a gyflwynwyd i adfywio rhagolygon ieithoedd lleiafrifol wedi bod yn ffynhonnell cryn anesmwythyd yn aml. Weithiau, mae gwrthwynebiadau i'r polisïau hyn yn cael eu mynegi mewn termau moesol, gan gyhuddo rhai mesurau o dorri egwyddorion normadol megis rhyddid unigol a chyfle cyfartal. O ystyried eu natur, mae'r gwrthwynebiadau moesol hyn yn cynnig cwestiynau diddorol i ryddfrydwyr. Felly, sut y dylai rhyddfrydwyr ymateb? Bydd yr erthygl hon yn archwilio'r cwestiwn hwn drwy ganolbwyntio ar un agwedd ddadleuol ar bolisi iaith yng Nghymru: y camau a gymerwyd i osod gofynion o ran yr iaith Gymraeg ar gyfer rhai swyddi yn y sector cyhoeddus. Dyma arfer sydd wedi creu cryn ddadlau, gyda gwrthwynebwyr yn honni ei fod yn tanseilio'r ymrwymiad rhyddfrydol i gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth ac, yn benodol, yn torri egwyddor penodi ar sail teilyngdod. A yw dadleuon o'r fath yn gwrthsefyll craffu? A yw gofynion ieithoedd lleiafrifol ym maes cyflogaeth yn mynd y tu hwnt i'r hyn y byddai rhyddfrydwyr yn ei ystyried yn dderbyniol, neu a ellir datblygu amddiffyniad cydlynol sydd â'i wreiddiau yn glir o fewn fframwaith rhyddfrydol? Huw Lewis, 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 55-73.
Bryn Jones, '"Amrywiaeth Caleidosgopig": Addysg ddwyieithog yng Nghymru heddiw' (2010)
Mae addysg ddwyieithog (h.y. Cymraeg a Saesneg) yn digwydd yn gyffredin yng Nghymru. Erbyn hyn, ceir amrywiaeth sylweddol yn narpariaeth addysg ddwyieithog ac, fel yn achos ieithoedd lleiafrifol mewn rhannau eraill o Ewrop, mae addysg ddwyieithog yng Nghymru yn gyfuniad o addysg mewn treftadaeth / cynhaliaeth iaith (Cymraeg iaith 1af) ac addysg drochi (Cymraeg 2il iaith). Gan fod addysg ddwyieithog ledled Cymru wedi’i nodweddu gan "amrywiaeth caleidosgopig" (Baker 1993:15), mae athrawon yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu ac addysgu dwyieithog. Yn dilyn cyfweliadau / arsylwadau mewn ysgolion uwchradd a chynradd dwyieithog ledled Cymru yn ystod 2007-2009, bydd y papur hwn yn esbonio nodau a methodoleg y prosiect ymchwil dan sylw, cyn symud ymlaen i drafod rhai canfyddiadau cychwynnol. Ceir cyfeiriad penodol at ddefnydd cydamserol, pwrpasol o iaith, gan fod athrawon yn defnyddio’r ddwy iaith ar yr un pryd yn ystod gwersi. Deuir i’r casgliad bod angen ymchwil bellach i ‘amrywiaeth caleidosgopig’ arferion addysg ddwyieithog mewn ysgolion yng Nghymru, yn ogystal â dadansoddiad a gwerthusiad o’r modiwlau addysgu dwyieithog yr arsylwyd arnynt.
Myfanwy Miles Jones, 'Woyzeck Buchner, Peter Szondi ac argyfwng y ddrama' (2009)
Yn yr erthygl hon, mae Myfanwy Jones yn dadansoddi portread Büchner o seicosis y cymeriad canolog, sy'n datblygu, yng ngoleuni damcaniaeth seiciatrig ddirfodol R. D. Laing. Mae arsylwi ar natur gynyddol dramateiddiad Büchner o ddyfnder a chymhlethdod y meddwl dynol, yn ei dro, yn datgelu cyfyngiadau ffurfiol drama yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan osod Woyczeck yng nghyd-destun dadansoddiad ffurfiol Szondi o ddrama fodern, mae'r erthygl yn dadlau bod ymdriniaeth Büchner â gwallgofrwydd yn bwrw goleuni newydd ar ddatblygiad ffurfiol drama fodernaidd ac yn dadlau bod y ffaith bod y ddrama yn anorffenedig yn ganlyniad anorfod y prosiect ei hun, o gofio er mwyn datrys y sefyllfa ddramatig yn ffurfiol, fod angen i amodau fodoli nad oeddent wedi dod i fodolaeth bryd hynny. Myfanwy Miles Jones, 'Woyzeck Büchner, Peter Szondi ac argyfwng y ddrama', Gwerddon, 4, Gorffennaf 2009, 24-35.