Yn dilyn crynodeb o ddamcaniaethau diweddar ynglÅ·n â gwrywdod a hunaniaeth, mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y portread o wrywdod yn L'Homme rompu (Y Dyn Toredig), sef nofel gan un o awduron mwyaf adnabyddus Moroco, Tahar Ben Jelloun. Yn ogystal â chyfeirio at y fframwaith theoretig er mwyn dadlau bod L'Homme rompu yn arddangos sut mae pwysau disgwrsaidd yn effeithio ar unigolion, cynigir ystyriaeth fanwl o bortread gwrywdod a hunaniaeth yn y nofel, a thrwy gyfeirio at ei chwaer-nofel answyddogol, La Femme rompue (Y Ddynes Doredig) gan Simone de Beauvoir, cwestiynir i ba raddau y mae'r datganiad dirfodol am ddewis yr unigolyn a goddrychedd yn parhau i fod yn gywir yn sgil yr hinsawdd damcaniaethol cyfredol. Sophie Smith, 'Chwilio am oddrychedd yn L'homme rompu gan Tahar Ben Jelloun', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 41-59.
Sophie Smith, 'Chwilio am oddrychedd yn L'homme rompu gan Tahar Ben Jelloun' (2013)
Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori' (2016)
Yn yr erthygl hon disgrifir gwreiddiau a pheth o hanes y cyfnodolyn Efrydiau Athronyddol, a gyhoeddwyd rhwng 1938 ac 2006. Cyfnodolyn Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion oedd yr Efrydiau a chyflwynwyd y rhan fwyaf o'r erthyglau fel papurau yn ystod cynhadledd flynyddol yr Adran, cynhadledd sy'n parhau i gael ei chynnal hyd heddiw. Manylir ar natur a chynnwys rhifyn cyntaf y cyfnodolyn, yn ogystal â thynnu sylw at ei brif themâu. Dangosir hefyd sut y daeth newid sylweddol i'r Efrydiau yn 1949 yn sgil penderfyniad allweddol gan aelodau'r Adran. Trodd yr Efrydiau o fod yn gyfnodolyn oedd yn trafod athroniaeth yn unig i fod yn gyfnodolyn lled ryngddisgyblaethol. Wedi'r newid hwnnw, cyhoeddwyd erthyglau ar sawl pwnc ynddo, ond fel arfer â ffocws arbennig ar faterion Cymreig. Yn ail hanner yr erthygl, trafodir papur dylanwadol a phwysig (y cyfraniad pwysicaf yn holl hanes y cyfnodolyn, efallai), sef 'Y syniad o genedl' gan yr Athro J. R. Jones. Fe'i cyhoeddwyd y flwyddyn cyn darlledu 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis, ac yma dadansoddir ei brif ddadleuon. Enghreifftir popeth sy'n bwysig am yr Efrydiau gan yr erthygl: defnyddir dull athronyddol o ddadansoddi, ond mae'n rhyngddisgyblaethol hefyd gan ei bod yn defnyddio elfennau o farddoniaeth a hanes. Mae'n erthygl wleidyddol a dylanwadol, ac yn sgil hynny disgrifiwyd Jones gan yr Athro D. Z. Phillips fel ysbrydoliaeth athronyddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â bod yn ddylanwad pwysig ar Saunders Lewis. Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 13-25.
T. Robin Chapman a Dafydd Sills-Jones, 'Ar wasgar hyd y fro': Arbrawf mewn darllen rhyngddisgyblaethol' (2011)...
Yn ystod haf 2010, holwyd Cymry o bob cenhedlaeth a chefndir am gerddi T. H. Parry-Williams, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar faes yr Eisteddfod. Y fformat oedd gofyn i bawb ddewis cerdd, ei darllen ar goedd, ac egluro wedyn pam y'i dewiswyd mewn cyfweliad penagored. Y bwriad oedd ymchwilio i statws cyfredol cerddi T.H. Parry-Williams, drwy ddadansoddi gwahanol ddarlleniadau yn ôl rhethreg a pherfformiad. Er na cheisiwyd sampl gynrychioliadol wyddonol, llwyddwyd i ddenu darllenwyr o'r ddau ryw, o wahanol rannau o Gymru, ac o bob oed rhwng yr ugeiniau cynnar ac wedi ymddeol. Roedd disgwyl i'r prosiect godi cwestiynau ynglÅ·n â derbyniad cerddi T. H. Parry-Williams ymysg y cyhoedd a gymerodd ran yn yr arbrawf. Pwy fyddai'n dewis pa gerdd? Sut byddai perfformiadau gwahanol o'r un gerdd yn goleuo gwahaniaethau daearyddol, neu rhwng cenedlaethau? Beth fyddai'r berthynas rhwng perfformiadau a'r rhesymau a'r straeon a gododd yn y cyfweliadau? Yn ogystal, roedd cwestiynau methodolegol i'w datrys ar draws gagendor rhyngddisgyblaethol. Sut byddai technegau clyweledol a llenyddol yn cyd-fynd? Sut byddai modd dadansoddi'r darlleniadau, heb ddilyn y trywyddau deongliadol arferol? Cynhaliwyd arddangosfa o'r cyfweliadau ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn ar ffurf cyfres o sgriniau fideo yn dangos y cyfweliadau hyn yn gyfochrog a chyfamserol. Er bod y prosiect yn perthyn i ddau draddodiad dadansoddol tebyg, sef dadansoddi llenyddiaeth, a dadansoddi ffilm, roedd yr arddangosfa yn eu hasio drwy drydydd traddodiad, a amlygwyd yng ngweithiau celf fideo megis gosodiadau clyweledol 'Forty Part Motet' a 'Videos Transamericas'. Roedd y modd arddangosol/dadansoddol hwn felly'n her i'r ddau ymchwilydd, ac yn siwrnai ddyfeisgar i barth methodolegol newydd. Er bod yr ymchwilwyr yn gytûn ynglÅ·n â chwestiwn ymchwil sylfaenol y prosiect, sef ceisio asesu lle T.H. yn y diwylliant Cymraeg bymtheng mlynedd ar hugain a rhagor wedi ei farw, daeth yn amlwg wrth iddynt gydweithio eu bod yn gwneud hynny ar sail cysyniadau tra gwahanol am arwyddocâd y dulliau a ddefnyddiwyd a'r canlyniadau a gaed. Mae cefndir Robin Chapman mewn llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar. Mae gan Dafydd Sills- Jones brofiad o weithio ym maes cynhyrchu ffilmiau dogfen, ac mae'm ymddiddori mewn agweddau perfformiadol ar gynyrchiadau o'r fath. Yr hyn sy'n dilyn yw epilog lle y defnyddir tir cyffredin y cywaith i esbonio eu dulliau wrth ei gilydd – ac i'w hunain. Y gobaith yw y bydd yn fodd nid yn unig iddynt ddweud rhywfaint am ein dwy ddisgyblaeth, ond y bydd yn ffordd i archwilio'r tyndra (creadigol) mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol yn fwy cyffredinol. T. Robin Chapman a Dafydd Sills-Jones, ''Ar wasgar hyd y fro': Arbrawf mewn darllen rhyngddisgyblaethol', Gwerddon, 9, Rhagfyr 2011, 59-70.
Tegwyn Harris, 'Ecoleg unigryw Ophelia bicornis, Savigny (Polychaeta)' (2013)
Y mae dosbarthiad daearyddol Ophelia bicornis yn gyfyngedig i arfordir Môr y Canoldir, y Môr Du ac arfordir gorllewinol Ewrop hyd at Lydaw a rhannau o ddeheudir Prydain Fawr. O fewn y dosbarthiad llydan hwn, cyfyngir y mwydyn i rannau cul iawn (yng nghyd-destun codiad a disgyniad y llanw) o dywod sydd, ar y cyfan, yn anghymwys i gynnal poblogaethau o anifeiliaid a phlanhigion. Serch hyn, dangosir bod Ophelia yn llwyddo ac yn ffynnu – a bod hyn yn dibynnu, i raddau helaeth iawn, ar addasiadau corfforol a ffisiolegol. Tegwyn Harris, 'Ecoleg unigryw Ophelia bicornis, Savigny (Polychaeta)', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 48-65.
Tudur Davies et al., 'Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan' (2015)
Yn yr erthygl hon, dadansoddir datrysiadau dichonadwy i'r broblem geometrig o rannu silindr yn dair rhan â'r un cyfaint. Darganfyddir y datrysiadau yng nghyd-destun cyflwr egnïol isaf ewyn hylifol sych. Defnyddir y meddalwedd efelychu rhifiadol Surface Evolver er mwyn enrhifo'r holl ddatrysiadau a chyfrifo'r arwynebedd ym mhob achos. Darganfyddir y datrysiad arwynebedd lleiaf ar gyfer holl werthoedd cymhareb agwedd y silindr, sef hyd ei radiws wedi'i rannu â'i uchder. Dangosir mai pedwar datrysiad optimaidd sydd i'r broblem ar gyfer holl werthoedd y gymhareb agwedd. Rhoddir cyfwng ar gyfer cymhareb agwedd y silindr ar gyfer pob un o'r datrysiadau optimaidd. Tudur Davies, Lee Garratt a Simon Cox, 'Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 30-43.
W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol' (2011)
Wrth gyhoeddi ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2010, nododd Llywodraeth Cynulliad Cymru bod y system addysg Gymraeg wedi chwarae rôl arweiniol ym maes addysg ddwyieithog ledled Ewrop a'r byd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Wrth i'r gyfundrefn ddatblygu yn sgil y cynnydd yn niferoedd y disgyblion sy'n dymuno addysg ddwyieithog yng Nghymru, pwysleisir ei bod yn hanfodol i ni gadw golwg ar y patrymau a'r modelau sydd ar gael mewn cymunedau dwyieithog eraill sy'n llwyddo i integreiddio dwyieithrwydd neu amlieithrwydd yn eu darpariaeth er mwyn i ni ddeall eu perthnasedd i'n sefyllfa benodol ni yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg dros y datblygiadau diweddaraf ym maes addysg ddwyieithog ar y llwyfan rhyngwladol gan ystyried beth yw'r prif negeseuon sy'n eu hamlygu eu hunain wrth i addysg o'r fath barhau i ddatblygu i ateb anghenion disgyblion mewn cymunedau dwyieithog ac amlieithog ledled y byd yn yr unfed ganrif ar hugain. W. Gwyn Lewis, 'Addysg ddwyieithog yn yr unfed ganrif ar hugain: Adolygu'r cyd-destun rhyngwladol', Gwerddon, 7, Ionawr 2011, 66-88.
Wyn Thomas, 'Annie Ellis Cwrt Mawr' Canorion Aberystwyth a chanu traddodiadol Cymru' (2007)'
Mae’r erthygl hon yn amlinellu’r cyfraniad gwerthfawr a wnaed gan Annie Ellis (Davies gynt) i adfywio caneuon gwerin yng Nghymru ac, yn benodol, ei dylanwad yn ardal Aberystwyth / Sir Aberteifi yn ystod degawdau cyntaf yr Ugeinfed Ganrif. Mae’n tynnu ar ohebiaeth wreiddiol, dyddiaduron gwaith maes, trawsgrifiadau wedi’u nodiannu, erthyglau papur newydd (yn y Gymraeg a’r Ffrangeg) a recordiadau ffonograff o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Brydeinig, Bibliotèque Nationale de France a chasgliadau preifat. Trafodir y meysydd canlynol: Ymwneud Annie Ellis â gweithgareddau cysylltiedig â chaneuon gwerin ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, gan gynnwys sefydlu Cymdeithas y Canorion, cystadlaethau casglu caneuon gwerin a pherfformiadau o opereta J. Lloyd Williams, Aelwyd Angharad. Chwe chyngerdd hanesyddol arwyddocaol o ganu traddodiadol Cymru a roddwyd gan bedwarawd o gantorion israddedig ym Mharis yn ystod mis Mawrth 1911, gan gynnwys perfformiadau yn Le Lied en Tout Pays ac Amffitheatr Richelieu (Sorbonne). Roedd yr ymweliad hwn yn ymgorffori’r Entente Cordiale a sefydlwyd rhwng Prydain a Ffrainc yn ystod y blynyddoedd yn arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf. Cysylltiad â Madame Lucie Barbier (pennaeth astudiaethau lleisiol yn y Brifysgol) ac ymateb cadarnhaol y wasg ym Mharis. Ymweliad gwaith maes tri diwrnod Ruth Lewis ac Annie Ellis â Llandysul, Pencader a’r cyffiniau ym mis Mehefin 1913 a chanlyniad eu gwaith casglu caneuon gwerin, gan gynnwys gwerthusiad o’r testunau a’r melodïau a gasglwyd. Mae’r erthygl hefyd yn amlygu rôl un fenyw Edwardaidd wrth ddatblygu bywyd diwylliannol Cymru a’i hymgeisiau i hyrwyddo canu traddodiadol Cymru ar lwyfan rhyngwladol.