Bwriad y ddau becyn yma yw rhoi cymorth i athrawon i gyflwyno’r elfen Cymru, Ewrop a’r Byd o Fagloriaeth Cymru. Trefnwyd y pecynau o gwmpas themâu gwahanol, a phob un yn edrych ar le Cymru yn Ewrop ac yn y byd mewn modd bywiog a chyffrous.
RAS200 yng Nghymru
Adnoddau prosiect RAS200 (cyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng celfyddyd) Mae RAS200 Sky and Earth yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dauganmlwyddiant y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach. Amcan RAS200 yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o seryddiaeth a geoffiseg drwy weithgaredd celfyddydol Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Darperir yn y casgliad hwn adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o'r gweithgaredd. Mae yma gyflwyniadau o'r seryddiaeth a geoffiseg drwy ddiwylliant, sy'n rhoi cip olwg ar y wyddoniaeth drwy weithiau creadigol. I ddysgu mwy am y prosiect, darllenwch gyflwyniad yr Athro Eleri Pryse i RAS200 yng Nghymru.
Gweithdy Doctoriaid Yfory 2020
Adnodd ar gyfer aelodau o gynllun Doctoriaid Yfory 3. Mae’n trafod awgrymiadau ar gyfer sicrhau profiad gwaith yn y maes iechyd a gofal. Mae hefyd yn trafod beth i'w gynnwys yn y datganiad personol. Cyflwyniad ydyw gan Sara Whittam o Brifysgol Caerdydd.
Gohebu ar...Covid-19
Dyma wefan rhyngweithiol sy'n adnodd defnyddiol i ddarpar newyddiadurwyr ar ohebu ar Covid-19. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut mae'r newyddion yn cael ei greu yn ystod y pandemig a gwybodaeth ar y galw am newyddion dibynadwy yn ystod yr argyfwng. Mae yma hefyd ganllaw ar ba Lywodraeth sy'n gyfrifol am beth wrth ymateb i Covid-19. Yn ogystal, mae'n cynnwys fideos i'w gwylio a cwis. Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Cyflwyniadau Astudiaethau Crefyddol/Athroniaeth (bl. 11-13)
Casgliad o gyflwyniadau PowerPoint yn ymwneud ag agweddau ar faes llafur Safon UG/Uwch Astudiaethau Crefyddol. Gan Dr Gareth Evans-Jones, Prifysgol Bangor.
Genres y Cywydd
Casgliad o ddetholiad o ysgrifau beirniadol thematig a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd yn y cylchgrawn Dwned, sef cylchgrawn hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol. Mae’r 14 o ysgrifau yn trafod agweddau ar fathau penodol o gywyddau cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. Ceir trafodaeth gyffredinol ar y gwahanol genres a geid yn y cyfnod, ffugfarwnadau, canu i noddwr penodol, ymrysonau barddol, cerddi i drefi, cywyddau i farfau a gynnau, cerddi am ferched a phenwisgoedd merched, cerddi am blant, cerddi am chwarae cardiau a gemau bwrdd, cerddi i adar fel llateion, ac ymdriniaeth â chywydd enwog Dafydd ap Gwilym, ‘Trafferth mewn tafarn’. Mae’r adnodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr Chweched Dosbarth a myfyrwyr prifysgol, i athrawon ac academyddion.
CAEA Ymwybyddiaeth Iaith – Gwaith Cymdeithasol
Adnodd rhyngweithiol sy'n anelu at greu’r amodau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fedru rhoi eu hun yn sgidiau’r defnyddiwr a theimlo a deall pam fod gwasanaeth yn Gymraeg yn ystyriaeth bwysig. Mae’r modiwl yn cynnwys 5 uned sy’n hoelio sylw ar: Ddeall anghenion iaith; Mynd dan groen y profiad dwyieithog; Ystyried cyd-destun y Gymraeg – ei chyflwr cyfoes a pheth o’i hanes ac effaith hynny ar ddefnyddwyr gwasanaeth; Dadansoddi’r berthynas rhwng iaith a grym, oblygiadau strategaeth Mwy na geiriau a’r cynnig rhagweithiol, a Dod yn barod i ymarfer a gweithredu’n unol â gofynion Mwy na geiriau. Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr weithio eu ffordd trwy'r deunyddiau o uned 1 i 5 wrth i drafodaeth a dysgu adeiladu fesul tipyn o'r naill i'r llall. Fodd bynnag, mae'r unedau hefyd yn hunangynhwysol i raddau helaeth, a gellir defnyddio unedau, neu rannau o uned, ar y cyd â modiwlau neu ddeunyddiau dysgu eraill.
Gohebu ar...Wleidyddiaeth Cymru
Dyma gasgliad o adnoddau ar gyfer darpar newyddiadurwyr neu unrhywun sydd eisiau deall mwy am wleidyddiaeth Cymru. Mae'n cynnwys: Gwefan rhyngweithiol sy’n gyflwyniad i wleidyddiaeth Cymru. Fideo yn cyflwyno gwaith Senedd Cymru. Fideo yn son am y diffyg democrataidd yn Nghymru Podlediad yn trafod gohebu ar etholiad Datblygwyd yr adnoddau gan adran JOMEC (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd). Mae'r adnodd yma yn un o dri a chyrhaeddodd y rhestr fer yn 2020 ar gyfer gwobrau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am greu Adnodd Cyfrwng Cymraeg.
Gweithdai Mathemateg ac Athroniaeth
Mae'r adnodd hwn yn deillio o grant bach a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol i Brifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd cynyddu diddordeb yn y cwrs gradd Mathemateg ac Athroniaeth. Fel rhan o'r prosiect, cynhaliwyd cyfres o weithdai mewn ysgolion. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau ymarferol sy'n deillio o'r ddau weithdy cyntaf, sef Cysyniadau Elfennol yn Athroniaeth a Mathemateg a Deall Rhifau a'u Rhan. Mae'r cwestiynau wedi'u hanelu at y rhai sy'n astudio tuag at Safon Uwch mewn Mathemateg.
Ap Tabl Cyfnodol
Dyma ap tabl cyfnodol cyfrwng Cymraeg sy’n llawn ffeithiau a lluniau, ac sy’n ddelfrydol i fyfyrwyr, athrawon, neu unrhyw un â diddordeb mewn cemeg.
Adnoddau Rhaglennu
Cyfres o adnoddau aml-gyfrwng i ddysgu rhaglennu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cynnwys 28 fideo sy’n cwmpasu lawrlwytho, gosod a rhedeg Python; cystrawen sylfaenol; a meddwl algorithmig trwy ddatrys problemau enghreifftiol. Yn ogystal ceir gwefan cyfrwng Cymraeg sy’n cynnwys adnoddau datblygu meddalwedd ymchwil a sgiliau ymchwil cyfrifiadurol.
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.