Cynhadledd Antur (Cynhaliwyd 18/02/2022) Bwriad y gynhadledd undydd “Antur” yw cau'r bwlch rhwng y diwydiant a myfyrwyr gyda’r ffocws ar gynnwys o faes campau awyr agored. Wedi ei gynnal yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac wedi ei lunio ar y cyd rhwng prifysgolion y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth, Bangor ac Abertawe bydd myfyrwyr ffilm a chyrsiau awyr agored yn mynychu’r gynhadledd yn Yr Egin ac arlein. Mae tri siaradwr gwadd anhygoel am rannu o’u profiadau helaeth gan ysbrydoli’r myfyrwyr. Y tri siaradwr gwadd yw : Lowri Morgan - Y darlledwr, anturiaethwr ac awdur sydd wedi ennill BAFTA a chydnabyddiaeth ryngwladol Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C gyda chyfrifoldeb golygyddol a strategol am Hansh Llion Iwan - Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, sydd hefyd wedi treulio deng mlynedd gyda’r BBC, yn gynhyrchydd a cyfarwyddwr dogfennau ar gyfer BBC 1, 2, 4 a BBC Cymru.
Cynhadledd Antur
Sesiynau Adolygu Carlam Cymru
Recordiadau o sesiynau adolygu mewn gwahanol feysydd a gomisiynwyd gan e-sgol ar gyfer myfyrwyr TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ystod 2021. Ceir sesiynau adolygu TGAU ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Cymraeg Ail Iaith Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu UG ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Ffiseg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Ceir sesiynau adolygu safon uwch ar y pynciau: Mathemateg Cymraeg Bioleg Cemeg Hanes Daearyddiaeth Seicoleg
Gweithdy Cymdeithaseg a'r Fagloriaeth Gymraeg ar ddulliau ymchwil
Gweithdy sgiliau ymchwil myfyrwyr Cymdeithaseg a’r Fagloriaeth ar gyfer Lefel A ac Uwch-Gyfrannol. Cyflwyniad ar brif elfennau gwaith ymchwil – dadansoddi data cynradd a data eilaidd. Cyflwyniadau gan Dr Rhian Hodges, Prifysgol Bangor (Data Cynradd) a Dr Siôn Llewelyn Jones, Prifysgol Caerdydd (Data Eilaidd).
Cynhadledd Undydd: 'Heddwch ac Iechyd'
Bydd Academi Heddwch Cymru’n cynnal cynhadledd undydd (ar-lein) ar y thema Heddwch ac Iechyd – Mawrth 31ain 2022. Mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth, mae’r alwad am bapurau wedi denu cyfraniadau sy’n archwilio heddwch ac iechyd o sawl cyfeiriad. Drwy gydol y dydd bydd paneli’n trafod heddwch ac iechyd yng nghyd-destun e.e.: cynllunio trefol cynllunio iaith peirianneg dŵr llesiant grwpiau sydd wedi eu gwthio i’r cyrion creadigrwydd Siaradwyr agoriadol: Yr Athro Rowan Williams, Cadeirydd Academi Heddwch Yr Athro Colin McInnes, Prifysgol Aberystwyth
Cwrs Biocemeg Cymraeg
Cwrs Biocemeg Ar-lein Astudio Bioleg neu Gemeg Safon Uwch/UG? Dere i gymryd rhan yn y cwrs Biocemeg Cymraeg ar-lein cyntaf am ddim sydd wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dechrau ar dy daith drwy’r byd Biocemeg gydag Elin Rhys a chriw Prifysgol Abertawe Mae hwn yn gwrs Biocemeg ar-lein cyfrwng Cymraeg wedi’i anelu at fyfyrwyr 16-18 oed sy’n astudio Safon Uwch/UG mewn Bioleg neu Gemeg. Datblygwyd yr adnodd gan Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir ei ddefnyddio fel adnodd i gyfoethogi dysgu manyleb Bioleg a Chemeg CBAC. Yn arwain ni drwy’r cwrs y mae Elin Rhys. Mae’n cynnwys fideos a chartwnau addysgiadol, cwisiau, tudalennau gwybodaeth a chyfweliadau gyda gwyddonwyr sy’n arwain y ffordd yn eu meysydd ymchwil. Gwybodaeth bellach: Dr Alwena Morgan a.h.morgan@colegcymraeg.ac.uk
Gwyddorau Chwaraeon: Iechyd a Lles
Mae’r adnoddau hyn yn edrych ar iechyd a lles mewn chwaraeon. Ymhlith y deunyddiau ceir unedau ar fuddion gweithgarwch corfforol, gwydnwch, penderfynyddion iechyd, datblygiad corfforol cyfannol neu holistig, ymlyniad, gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc, rheoli straen, a pholisïau addysg ym maes iechyd a lles. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwestiynau seminar llyfryddiaeth Cyfranwyr y thema hon yw: Dylan Blain Dr Lowri Cerys Edwards Seren Evans Dr Anwen Jones Dr Carwyn Jones Dr Julian Owen Dione Rose Catrin Rowlands Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Gwyddorau Cymdeithas: Astudio Cymru Gyfoes
Mae’r adnoddau hyn yn gosod y chwyddwydr ar astudio Cymru gyfoes. Trafodir ynddynt nifer o themâu allweddol o fewn y gwyddorau cymdeithas, a hynny trwy dynnu ar enghreifftiau Cymreig cyfoes. O ganlyniad, mae’r pecyn yn unigryw yn y Gymraeg. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau fideo cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth. Cyfranwyr y thema hon yw: Dr Cynog Prys Dr Rhian Hodges Athro Rhys Jones Dr Siôn Llewelyn Jones Dr Rhys D. Jones Dr Gareth Evans-Jones. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn.
Doctoriaid Yfory 5.1
Cynllun i gefnogi disgyblion blwyddyn 12 a dysgwyr a myfyrwyr ym mlwyddyn olaf o'u hastudiaethau yn y coleg/prifysgol gyda'u ceisiadau i astudio Meddygaeth. Mawrth: Cyflwyniad i'r rhaglen Ebrill: Profiad gwaith Mai: C21 Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd Mai: Sgyrsiau gyda nifer o feddygon proffesiynol Mehefin: Cwricwlwm Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe Mehefin: Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Gorffennaf: Llwybrau amgen i feddygaeth Awst: Egwyl yr haf Medi: Sesiwn cwestiwn ac ateb ar Ddatganiad Personol Hydref: Ceyfweliadau meddygol traddodiadol Tachwedd: Cyfweliadau MMI Rhagfyr: Cyfweliadau COFRESTRWCH ISOD (Dyddiad Cau cofrestru - 4 Chwefror 2022):
Gwyddorau Cymdeithas: Theori Gymdeithasegol
Mae'r adnodd hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rai o brif ddamcaniaethwyr a gwaith damcaniaethol o fewn y thema theori gymdeithasegol. Mae pob uned yn cynnwys: crynodeb darlith ar ffurf cyflwyniadau byrion cwis aml-ddewis cwestiynau seminar llyfryddiaeth. Cyfranwyr y thema hon yw: Dr Cynog Prys Dr Rhian Hodges Athro Rhys Jones Emily Pemberton Dr Siôn Llewelyn Jones Dr Huw Williams. Cynhyrchwyd y deunyddiau hyn â chefnogaeth Cronfa Adfer a Buddsoddi Addysg Uwch (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru). Mae'r holl unedau a restrir isod hefyd i’w cael yma mewn un pecyn.
Meddalwedd defnyddiol ar gyfer addysgu ar-lein
Beth am ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol hwyliog yn eich addysgu ar-lein? Yma cewch ddysgu am wahanol blatfformau er mwyn creu profiadau dysgu amrywiol a defnyddiol ar gyfer eich myfyrwyr. Yn yr adnodd hwn, cewch gyflwyniad i’r platfformau canlynol: Kahoot Padlet Quizzizz Quizlet Cyflwynydd: Dr Nia Cole Jones Mae Dr Nia Cole Jones yn uwch-ddarlithydd gyda’r Brifysgol Agored. Graddiodd â gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth, ac wedyn aeth yn ei blaen i astudio M.Phil a PhD ar ddatblygiad y Gymraeg ym meysydd chwaraeon a’r newyddion. Mae wedi gweithio mewn addysg uwch ers dros ddegawd, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau iaith myfyrwyr ar draws pob lefel.
Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd 2023
Sesiynau ar-lein sy'n trafod gwaith a phrofiadau newyddiadurwyr sydd yn, neu wedi gweithio dramor, a phwysigrwydd a rôl y Gymraeg yn ei gyrfa. Cyfle i fyfyrwyr, dysgwyr, disgyblion ac academyddion sydd yn ymddiddori mewn newyddiaduraeth i glywed gan lu o newyddiadurwyr a’i holi. SEMINARAU 2023: Illtud Dafydd, 31 Ionawr 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr chwaraeon gyda'r asiantaeth newyddion ryngwladol Agence France-Presse ym Mharis. Megan Davies, 15 Chwefror 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr sydd wedi gweithio i Vogue ym Mharis cyn dychwelyd i Gymru i weithio i BBC Cymru. Andy Bell, 15 Mawrth 2023 (GWYLIWCH Y RECORDIAD) Newyddiadurwr, cynhyrchydd a gohebydd sydd wedi gweithio yn y byd darlledu yn Awstralia am dros dri degawd ac yn ‘lais Awstralia’ i gyfryngau Cymraeg.
Cynhadledd Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifainc
Cynhadledd ar-lein ac agored i bawb ar opsiynau gyrfa posib ym maes plant a phobl ifainc (heblaw addysgu). Cynhaliwyd y gynhadledd ar ddydd Mercher, 16 Chwefror 2022, drwy gyfrwng y Gymraeg (heb gyfieithu ar y pryd). 1.00: Prif Siaradwr – Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin 2.00: Panel Cyflogadwyedd – Yr Urdd (Aled Pickard), Ysgol Berfformio Academy Arts ac actores (Jalisa Andrews), GISDA (Siân Elen Tomos), Chwarae Cymru (Matthew Jenkins) 2.50: TORIAD 3.00: Mentergarwch – sgwrs gyda Gwenllian Stephens ar sefydlu Meithrinfa Cwtsh yn Sir Gâr 3.30: Panel Cymhwyster Pellach – dysgu am ddilyn cyrsiau eraill ar ôl gadael y coleg, siaradwyr yn sôn am; therapi lleferydd (Catrin Phillips), gwasanaeth prawf (Eirian Evans), gwaith cymdeithasol (Gwenan Prysor, Prifysgol Bangor) ac ymchwil prifysgol (Cadi Siôn, Prifysgol Bangor) 4.15: Trafodaeth agored 4.30: Gorffen Mae modd gwylio recordiadau o'r sesiynau unigol isod: