Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg Iaith Gyntaf UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 1 Rhagfyr 2021. 2021 1 Rhagfyr 2021: Dafydd ap Gwilym, Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.13) 8 Rhagfyr 2021: Gwerthfawrogi Rhyddiaith, Yr Athro Angharad Price, Prifysgol Bangor (Bl.13 + Bl.12) 2022 2 Chwefror 2022: Ymarfer Papur Gramadeg, Dr Alec Lovell, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 9 Chwefror 2022: Hedd Wyn (Ffilm), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12) 16 Chwefror 2022: Branwen, Dr Aled Llion Jones, Prifysgol Bangor (Bl.13) 2 Mawrth 2022: Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), Dr Bleddyn Owen Huws, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13) 9 Mawrth 2022: Sul y Mamau yn Greenham (Menna Elfyn), Dr Rhiannon Marks, Prifysgol Caerdydd (Bl.12) 16 Mawrth 2022: Y Genhedlaeth Goll (Alan Llwyd), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod neu'r diwrnod cynt. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant. Ni fyddwn yn gallu eich gweld, ond bydd modd defnyddio'r botwm sgwrsio i gyfrannu neu ofyn cwestiwn. Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc. I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Ar-lên 2021-22: Sesiynau Adolygu Llenyddiaeth UG/Safon Uwch (Rhagfyr 2021 - Mawrth 2022)
Astudio Cymraeg yn y brifysgol (Gweminar)
Gweminar Astudio Cymraeg yn y brifysgol Ym mlwyddyn 12 neu 13? Eisiau gwybod mwy am astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol? Dewch i gael mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i glywed barn ein llysgenhadon sy'n astudio'r pwnc am eu cyrsiau a'u bywyd fel myfyrwyr y Gymraeg. Cyflwyniad a recordiwyd ym mis Tachwedd 2021. Mae'n cynnwys: Cyflwyniad am astudio Cymraeg yn y brifysgol (hyd at 19 munud) e.e. Lle mae modd astudio? Beth sydd modd ei astudio - o ran cyrsiau a modiwlau? Pa gymorth ariannol sydd ar gael? Sgwrs rhwng ein llysgenhadon a myfyrwyr cyfredol am astudio Cymraeg yn y brifysgol (19 munud ymlaen) Cyflwyniad cyfrwng Cymraeg.
Cynhadledd Dechnoleg Ar-lein 2021
Dyma Gynhadledd ar gyfer myfyrwyr 16 oed a throsodd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion sy'n ystyried dilyn gyrfa mewn peirianneg, cyfrifiadureg, neu bwnc cysylltiedig. Bydd y Gynhadledd yn cael ei chynnal dros Zoom, drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg. Pa lwybrau gyrfa y gallwch chi eu dilyn? Pa alw sydd am eich sgiliau yng Nghymru ac yn Gymraeg? Ymunwch â'r Gynhadledd i glywed gan bobl sy'n gweithio yn y meysydd hyn. Bydd cyfle gennych i ofyn cwestiynau hefyd. Cadeirydd: Ann Beynon Cyn-gomisiynydd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru a chyn-gyfarwyddwraig BT Cymru Siaradwyr: Peter Gwyn Williams - Adran Seilwaith Digidol, Llywodraeth Cymru Carwyn Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr TGCh a Busnes Digidol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru Mark Davies, Peiriannydd Sifil, Cyfarwyddwr EDAF Siwan Owen, Rheolwr Datblygu Cyswllt, Electronic Arts Ceri Mai, Prentis Gradd Seiberddiogelwch, Cyngor Gwynedd Hywel Ifans, Cyfarwyddwr BCC IT Rhys Williams, Rheolwr Systemau a TG, Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Sêr Cemeg Cymru
Cyfres o fideos sy'n cyflwyno gwaith dydd i ddydd Cemegwyr mewn labordai yng Nghymru a thu hwnt. Cyhoeddwyd yn wreiddiol fel rhan o weithgareddau Eisteddfod Amgen 2021. Cyllidwyd y prosiect gan y Royal Society of Chemistry. Diolch i Telesgop am gynhyrchu ac i Eisteddfod Genedlaethol Cymru am rannu.
Mathemateg mewn Chwaraeon
Dyma wefan sy’n rhoi blas ar sut mae mathemateg yn berthnasol mewn chwaraeon, boed hynny i wella ein dealltwriaeth o ryw sefyllfa benodol, gwella dyluniad offer, neu optimeiddio strategaeth fel yr un a wyneba tîm mewn ras F1. Mae’r adnodd dysgu yma’n cynnwys adolygiad o ddilyniannau a chyfresi rhifyddol a geometrig, ac yn defnyddio’r rhain yng nghyd-destun dewis strategaeth “pitio” mewn ras F1. Mae’r adnodd yn cynnwys gêm ryngweithiol lle gall hyd at dri dysgwr gystadlu yn erbyn ei gilydd trwy gymharu strategaethau gwahanol, a gwirio eu datrysiadau i’r ymarferion. Crëwyd y wefan gan Dr Tudur Davies a Mr Jakub Sowa o Brifysgol Aberystwyth. Cefnogwyd y prosiect gan grant bach gan Gymdeithas Fathemategol Llundain.
Newidiadau yng Nghefnfor yr Arctig a Thywydd Cymru
Ffilm fer 10 munud sy’n esbonio sut mae newidiadau yng Nghefnfor yr Arctig a’r dirywiad o ran rhew môr yn gallu dylanwadu’n uniongyrchol ar batrymau a systemau’n tywydd ni yma yng Nghymru. Mae’r ffilm yn dilyn hanes y prif anturiaethwyr at heddiw, at ddiflaniad rhew’r môr ac effaith hynny. Mae’n cyfuno gwaith ffilm o Gefnfor yr Arctig (wedi ei ffilmio gan Wyddonwyr Prifysgol Bangor ar leoliad) gydag arbrofion labordy yn ogystal â chyflwyniadau o flaen y camera. Mae’r fideo wedi’i anelu at fyfyrwyr Prifysgol yn ogystal â disgyblion ysgol.
Darlith Wadd: Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys
Yn y ddarlith wadd hon, mae Dafydd Llywelyn yn trafod Cynllun Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Recriwtio BAME a dylanwad yr ymgyrch 'Mae Bywydau Duon o Bwys'. Mae'r ddarlith yn addas ar gyfer dysgwyr ysgol, a myfyrwyr sy'n astudio yn y maes Heddlua / Troseddeg / Gwasanaethau Cyhoeddus.
Adnoddau Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 2
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys 30 o sesiynau dysgu cyfunol ar gyfer dysgwyr sy'n astudio cyrsiau Gwasanaethau Cyhoeddus ar Lefel 2. Mae modd gweld y sesiynau yn eich porwr drwy ddilyn y dolenni isod. Mae hefyd modd i golegau lawr lwytho'r cynnwys er mwyn eu gosod o fewn eu llwyfannau dysgu lleol. Mae'r ffeil zip yn cynnwys ffeiliau SCORM ar gyfer yr holl unedau. Mae cynnwys y sesiynau hyn yn ddwyieithog, ond dim ond yn Gymraeg mae modd ateb y cwestiynau. Hawlfraint Heart of Worcestershire College ar ran y Blended Learning Consortium a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r adnoddau hyn i gael eu defnyddio mewn sefydliadau addysgiadol yn unig ac ni ddylid eu haddasu na’u hailwerthu.
PAAC - Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymraeg
Pecyn o e-lyfrau a fideos i gefnogi dysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynulleidfa’r deunyddiau hyn yw disgyblion sy’n astudio Lefel A Cymdeithaseg mewn ysgolion ledled Cymru, a myfyrwyr blwyddyn gyntaf sydd am astudio’r pwnc yn y brifysgol.
Geiriadur Cymraeg - Ffrangeg
Mae’r geiriadur Cymraeg-Ffrangeg / Ffrangeg- Cymraeg ar-lein yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio tuag at radd yn y pwnc, yn ogystal â myfyrwyr Safon Uwch a gweithwyr proffesiynol. Er mai’r brif gynulleidfa yw myfyrwyr Safon Uwch ac Addysg Uwch, bydd y geiriadur cyfoes hwn ar gael ac yn ddefnyddiol i unrhyw gynulleidfa gyhoeddus sydd â diddordeb mewn Cymraeg, Ffrangeg ac ieithoedd yn gyffredinol. Diolch i CAA a Llywodraeth Cymru am y gefnogaeth wrth fynd ati i addasu a diweddaru’r geiriadur gwreiddiol a’i ddarparu bellach yn ddigidol.
E-lyfr Cyflwyniad i Farchnata
Cyflwyniad i Farchnata yw’r gwerslyfr Cymraeg cyntaf erioed ym maes marchnata. Mae wedi ei gynllunio i fod o gymorth i fyfyrwyr sy’n astudio Busnes, Rheolaeth, Cyfathrebu a Marchnata yn y brifysgol neu’r coleg, ynghyd ag ar gyfer defnydd ymarferol gan fusnesau ac ymarferwyr cyfathrebu a marchnata mewn sefydliadau gwirfoddol a chyhoeddus. Mae’n cynnwys nifer o elfennau rhyngweithiol ac amlgyffwrdd a gellir ei ddefnyddio ar gyfrifiaduron, tabledi a ffonau clyfar.
Cynhadledd Wyddonol 2021
17 Mehefin 2021 (9:30-13:00) Cynhadledd yw hon sy’n rhoi llwyfan i wyddonwyr Cymraeg eu hiaith rannu ffrwyth eu hymchwil a, thrwy hynny, feithrin cymdeithas academaidd wyddonol cyfrwng Cymraeg. Mae’n gyfle i drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y gwyddorau. Cynhelir y Gynhadledd yn y Gymraeg ac mae croeso cynnes i bawb sy’n diddori yn y gwyddorau i gofrestru i'r Gynhadledd, boed yn academyddion, fyfyrwyr, aelodau o'r cyhoedd neu ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau addysg bellach.