Mae’r rheolau sy’n pennu treigladau a ffurfiau enwau ac ansoddeiriau ar ôl rhifolion mewn Cymraeg Canol yn aml yn peri dryswch i ddarllenwyr cyfoes. Mae’r erthygl hon yn braslunio’r rheolau a rhoi dadansoddiad synchronig ohonynt. Dangosir eu bod yn seiliedig ar system gydlynol lle mae rhif (unigol, deuol, rhifol, lluosog) yn ganolog. Gellir cofnodi a dyddio’r newidiadau ieithyddol sydd wedi digwydd ers hynny yn fanwl drwy ddefnyddio tystiolaeth destunol. Dadleuir y gellir deall y newidiadau hyn fel camau ar hyd llwybr tuag at system newydd, yr un mor gydlynol â’i rhagflaenydd, lle y mae pob ymadrodd rhifol yn ramadegol unigol, a chenedl yn hytrach na rhif sy’n penderfynu ffurf a threigladau ill dau.
David Willis, 'Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg' (2019)
Cyrsiau Blasu Dysgu Cymraeg Ar-lein
Cyrsiau 10-awr ar-lein sy'n rhoi blas ar ddysgu Cymraeg i weithwyr o wahanol sectorau, gan gynnwys Iechyd, Gofal, y Gwasanaethau Cyhoeddus, Twristiaeth, Manwerthu a Thrafnidiaeth. Maen nhw’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd ac maen nhw ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae’n rhaid mewngofnodi neu greu cyfrif i ddechrau cwrs, proses hawdd iawn (dewiswch ‘arall’ yn y ddewislen, wrth i chi greu eich cyfrif). Datblygwyd y cyrsiau gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Ap Hanfodion Dysgu Dwyieithog
Mae’r ap hwn yn helpu athrawon i roi’r cyfle i bawb i ddefnyddio eu dewis iaith yn yr ystafell ddosbarth.
Gweithdai Bioamrywiaeth
Adnoddau sy'n deillio o weithdai bioamrywiaeth a gynhaliwyd gyda myfyrwyr UG a Safon Uwch. Nod y gweithdai oedd rhoi profiad i'r myfyrwyr o dechnegau electrofforesis, PCR ('Polymerase chain reaction') a'r ffyrdd y cânt eu gweithredu.Adnoddau sy'n deillio o weithdai bioamrywiaeth a gynhaliwyd gyda myfyrwyr UG a Safon Uwch. Nod y gweithdai oedd rhoi profiad i'r myfyrwyr o dechnegau electrofforesis, PCR ('Polymerase chain reaction') a'r ffyrdd y cânt eu gweithredu.
Ap Gofalu Trwy'r Gymraeg
Crewyd yr ap hwn ar gyfer Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle neu wrth astudio. Mae'r eirfa wedi ei rhannu i 21 o adrannau gan gynnwys Ososteopathi, Bydwreigiaeth a Thechnoleg Glinigol. Gall defnyddwyr ddewis cuddio neu ddangos y Saesneg ar y tudalennau wrth i'w Cymraeg wella. Dyluniwyd, datblygwyd a recordiwyd sain yr ap gan Galactig. Y gyflwynwraig Nia Parry leisiodd yr ap.
Môr yr Iwerydd a Thywydd Cymru
Fideo sy'n dangos sut mae cylchrediad dŵr yng ngogledd Môr yr Iwerydd yn effeithio ar dywydd Cymru. Jess Mead Silvester (myfyriwr PhD ar y pryd mewn Ffiseg Eigion) sydd wedi sgriptio ac sy'n cyflwyno.
Holiadur Pryder Perfformiad
Crewyd yr adnodd hwn er mwyn darparu cefnogaeth seicoleg chwaraeon cyfrwng Cymraeg i athletwyr sy'n siarad Cymraeg. Y nod yw deall yr ymateb pryder perfformiad yn llawn.
Cwrs byr: Datblygu strategaethau astudio effeithiol
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Gall dod i wybod sut rydych yn dysgu eich helpu i ddatblygu technegau astudio sy'n gweddu i'ch anghenion a'r dasg dan sylw. Bydd gwella eich strategaethau astudio yn arbed amser i chi, yn ysgafnhau eich baich gwaith ac yn helpu i wella ansawdd eich gwaith. Byddwch yn dysgu technegau ac yn datblygu sgiliau a fydd yn eich helpu gyda'ch astudiaethau.
Cwrs byr: Darllen a Gwneud Nodiadau
Dolen i gwrs byr 10 awr ar wefan OpenLearn Cymru gan y Brifysgol Agored. Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o'ch astudiaeth yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu'n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl. Byddwch yn cael arweiniad ar ba dechnegau i'w defnyddio a phryd i'w defnyddio.
E-lawlyfrau Syniadau Gwleidyddiaeth
Adnoddau digidol gan Elin Royles a Huw Lewis sy'n cyflwyno syniadau, cysyniadau ac egwyddorion creiddiol Gwleidyddiaeth. Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn er mwyn cynorthwyo disgyblion ac athrawon sy’n astudio cwrs Safon Uwch ac Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth CBAC ac i ddarparu gwybodaeth gychwynnol ar gyfer myfyrwyr is-raddedig. Mae E-lawlyfr 1: Syniadau Hanfodol i Ddeall Systemau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 2 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Byw a Chyfranogi mewn Democratiaeth.’ Mae E-lawlyfr 2: Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 3 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol.’ Cynhyrchwyd y deunydd hwn gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ariannwyd y prosiect o Gronfa Datblygiadau Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
CAEA Ymwybyddiaeth Iaith – Gwaith Cymdeithasol
Adnodd rhyngweithiol sy'n anelu at greu’r amodau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fedru rhoi eu hun yn sgidiau’r defnyddiwr a theimlo a deall pam fod gwasanaeth yn Gymraeg yn ystyriaeth bwysig. Mae’r modiwl yn cynnwys 5 uned sy’n hoelio sylw ar: Ddeall anghenion iaith; Mynd dan groen y profiad dwyieithog; Ystyried cyd-destun y Gymraeg – ei chyflwr cyfoes a pheth o’i hanes ac effaith hynny ar ddefnyddwyr gwasanaeth; Dadansoddi’r berthynas rhwng iaith a grym, oblygiadau strategaeth Mwy na geiriau a’r cynnig rhagweithiol, a Dod yn barod i ymarfer a gweithredu’n unol â gofynion Mwy na geiriau. Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr weithio eu ffordd trwy'r deunyddiau o uned 1 i 5 wrth i drafodaeth a dysgu adeiladu fesul tipyn o'r naill i'r llall. Fodd bynnag, mae'r unedau hefyd yn hunangynhwysol i raddau helaeth, a gellir defnyddio unedau, neu rannau o uned, ar y cyd â modiwlau neu ddeunyddiau dysgu eraill.
Ysgrifennu Academaidd
Mae’r pecyn hwn yn cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr israddedig y Gyfraith, ac yn eu paratoi ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig, gan atgyfnerthu eu hyder wrth iddynt feistroli cywair academaidd. Datblygwyd yn 2018. Addasiad mwyaf diweddar: Chwefror, 2022